Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynnig i adeiladu safle newydd i Ysgol Treferthyr yng Nghricieth.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig i adeiladu safle newydd.

Bydd hyn yn caniatáu’r Cyngor i ddisodli’r adeilad presennol o’r 19eg ganrif, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “gwael iawn” a “thu hwnt i gael ei adfer”.

Roedd gan Ysgol Treferthyr 117 o ddisgyblion ym mis Medi 2020, ychydig yn brin o gapasiti presennol yr ysgol o 119

Bydd capasati’r ysgol yn cael ei gynyddu i 150 a’i adleoli yng ngorllewin y dref erbyn mis Medi 2023.

Bydd y cynllun yn gweld buddsoddiad o £4.9 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddant yn ariannu 65% o gost yr ysgol newydd o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif, gyda’r gweddill yn dod gan Gyngor Gwynedd.

Mae Wynne Construction, sydd â’i bencadlys ym Modelwyddan, eisoes wedi’i benodi i adeiladu’r ysgol newydd, a disgwylir i’r gwaith ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn a chymryd tua 18 mis i’w gwblhau.

Cynlluniau’r ysgol newydd

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ac mae’n amlwg fod brwdfrydedd yn lleol ar gyfer y cynlluniau i adeiladu cartref newydd i Ysgol Treferthyr,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg.

“Mae adeilad presennol yr ysgol wedi gweld dyddiau gwell a byddai’n aneconomaidd i barhau i geisio cynnal a chadw’r adeiladau ar gyfer y dyfodol.

“Ein nod fydd adeiladu cartref newydd i’r ysgol a fydd yn darparu cyfleusterau modern i blant Cricieth a fydd yn eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.”