Mae yna debygrwydd rhwng ymdrech ddiweddar i ddiogelu’r Ffrangeg yn Quebec a hen ddeddfwriaeth a gafodd ei phasio i ddiogelu’r Gymraeg yng Nghymru, yn ôl Dr Ian Johnson, gŵr a dreuliodd gyfnod yn gwneud gwaith ymchwil yn y Sefydliad Canadaidd tros Ymchwil i Ieithoedd Lleiafrifol.

Mae’n dal i ddilyn gwleidyddiaeth Canada, ac ef yw arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Bro Morgannwg.

Bellach, mae Llywodraeth Quebec wedi cyflwyno Bil a fyddai’n cryfhau statws y Ffrangeg yn y dalaith pe bai’n dod i rym, ac mae disgwyl cryn ymgynghori ar y mater tros y misoedd nesa’.

Mae Dr Ian Johnson yn credu bod y Bil yn ceisio cryfhau’r syniad o Quebec fel cenedl (endid diwylliannol unigryw) oddi mewn i Ganada, ac mae’n gweld tebygrwydd â Chymru yn hyn o beth.

“Mae’n teimlo i fi bach fel Deddf Cymraeg 2011,” meddai wrth golwg360.

“Wnaeth Bethan Sayed a Leanne Wood [dwy gyn-Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru] roi rhywbeth mewn ar y munud olaf yn datgan bod Cymru yn wlad ddwyieithog.

“Mae rhyw elfen o: ‘Mae hyn yn ddatganiad pwysig o le yr ydym ni. Ry’n ni’n genedl. Mae Quebec yn genedl’. Ac felly trwy hynny maen nhw’n datgan [eu statws yn genedl].’

Cafodd ‘Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011’ ei basio yn sgil clymblaid ‘Cymru’n Un’ rhwng Plaid Cymru a Llafur, ac fe arweiniodd at sefydliad rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Llywodraeth Quebec yn gobeithio adolygu siarter Ffrangeg 1977 a thrwy hynny, greu gweinyddiaeth a fydd yn diogelu’r iaith.

Trwy weithredu mae’r Llywodraeth hefyd yn gobeithio cryfhau disgwyliadau ar fusnesau a sefydliadau.

Agweddau “tra gwahanol”

Er y tebygrwydd bychan yma, dydy Quebec ddim yn “gymharol gyda Chymru, mewn rhai ffyrdd”, yn ôl Dr Ian Johnson.

Mae’n nodi bod mwyafrif o boblogaeth wyth miliwn y dalaith yn uniaith Frangeg, a bod yna lefydd megis dinas Montreal sydd ag ardaloedd uniaith Saesneg.

Mae’r sefyllfa yn “dra gwahanol” i Gymru, meddai, lle mae gennym uchelgais o sicrhau gwlad ddwyieithog – nid gwlad sydd wedi’i rhannu’n fröydd uniaith.

“Beth sydd yn gymharol â sefyllfa Cymru go iawn yw talaith arall yng Nghanada o’r enw New Brunswick,” meddai. “Dyna lle’r oeddwn i’n gweithio.

“Mae New Brunswick yn ddwyieithog yn swyddogol yn lle uniaith Ffrangeg.

“Mae’r sefyllfa yna yn fwy tebyg i Gymru … Mae’r sefyllfa yn lot fwy cymharol i ni, ond mae lot llai o bobol yn gwybod amdano fe, ac mae’n llai rhamantaidd na Montreal.”

Etholiad ar y gorwel

Pe bai cynlluniau Llywodraeth Quebec yn dod i rym byddai siopau yn gorfod gwasanaethu cwsmeriaid yn Ffrangeg, ac mi fydd nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Saesneg yn cael ei rewi.

Byddai’r Ffrangeg yn dod yn unig iaith gweinyddiaeth gyhoeddus, a byddai modd gwaredu statws ‘dwyieithog’ trefi lle mae nifer y siaradwyr Saesneg iaith gyntaf yn cwympo dan 50%.

Mae disgwyl i nifer y bobol sydd yn defnyddio Ffrangeg ar yr aelwyd gwympo o 82% i 75% dros y 15 mlynedd nesa’, a dadl y Llywodraeth yw y bydd y camau yma yn mynd i’r afael â’r dirywiad.

Er hynny, mae Dr Ian Johnson yn tybio bod yna gymhelliant arall i’r camau diweddaraf.

Heb os mae Coalition Avenir Quebec (y blaid sydd mewn grym) yn blaid “cenedlaetholgar” sydd yn “poeni am ddirywiad yr iaith Ffrangeg”, meddai, ond mae yna ragor i hyn.

“Mae sawl peth i’w hystyried,” meddai.

“Un yw eu bod nhw wedi cael tair blynedd mewn llywodraeth erbyn hyn. Blwyddyn nesa’ yw etholiad nesa’ Quebec.

“Plaid genedlaetholgar ydyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn mynd ar ôl annibyniaeth.

“‘Dydyn ni ddim yn mynd i gael y refferendwm. Rydym ni angen canolbwyntio ar bethau eraill sydd o bwys’. Felly rhaid pwyntio bys at rai llwyddiannau.

“Felly fel plaid genedlaetholgar, beth sy’n fwy pwysig nag amddiffyn y diwylliant a’r iaith trwy gryfhau’r mesurau yna?”