Mae Hywel Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar Fasnach Ryngwladol, wedi cyhuddo Boris Johnson o wrthod diystyru cytundeb masnach gydag Awstralia a fyddai’n “dinistrio” amaeth yng Nghymru.
Er hynny, mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, wedi dweud na fyddai unrhyw Gytundeb Masnach Rydd sy’n cael ei sicrhau gydag Awstralia “yn tandorri ffermwyr y Deyrnas Unedig, nac yn peryglu ein safonau uchel”.
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Hywel Williams fod Boris Johnson wedi dweud yn 2019, wrth ymweld â Chymru, y byddai ‘bob tro yn cefnogi ffermwyr gwych Prydain’.
Cefnogi ffermwyr Cymru
“Nawr, mae’n ymddangos ei fod yn cefnogi ffermwyr Awstralia yn lle. A fydd e’n cadw at ei air, a wir yn cefnogi ffermwyr Cymru heddiw drwy ddiystyru, am byth, roi mynediad heb dariff i fewnforion cig eidion a chig oen Awstralia?” meddai.
Atebodd Boris Johnson drwy ddweud y byddai’n cefnogi ffermwyr Cymreig i allforio cig oen o amgylch y byd, gan grybwyll y farchnad yn yr Unol Daleithiau – ond ni wnaeth sôn am y cytundeb masnach arfaethedig gydag Awstralia.
“Byddai rhoi mynediad agored i gig oen a chig eidion rhad o Awstralia yn cyflwyno bygythiad dirfodol hanesyddol i ffermwyr Cymreig, a’r cymunedau y maen nhw’n eu cefnogi. Mae’r Prif Weinidog wedi torri ei addewid i’n ffermwyr,” meddai Hywel Williams AS yn ddiweddarach.
“Byddai cytundeb masnach rydd gydag Awstralia yn adio dim ond 0.01% mewn cynnyrch domestig gros dros bymtheg mlynedd, ond gallai ddinistrio’r diwydiant ffermio Cymraeg am genedlaethau. Ni ddylai’r un llywodraeth sy’n honni eu bod nhw’n gweithredu er lles ffermwyr Cymreig fyth arwyddo bargen o’r fath.
“Drwy wrthod diystyru mynediad heb dariff i gynnyrch amaethyddol Awstralia, mae’r Prif Weinidog yn dangos ei barodrwydd i aberthu amaeth Cymreig ar gyfer cynnydd gwleidyddol rhad eto.”
Diwydiant gweithgynhyrchu
Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymru, fe wnaeth Gerald Jones AS, y Gweinidog Cymru Cysgodol dynnu sylw at y diwydiant gweithgynhyrchu, yn ogystal ag amaethyddiaeth.
“Gall cytundebau masnach â gwledydd eraill gynnig cyfleoedd newydd i hybu ein cynhyrchwyr Cymreig gwych o amgylch y byd, ond mae’n rhaid i ni sicrhau fod y bargeinion hyn ddim yn tan-dorri ein diwydiannau ein hunain yn y broses,” meddai.
“Mae Fforwm Modurol Cymru wedi dweud fod y berthynas fasnachu bresennol rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn arwain at amharu ar gwmnïau yng Nghymru, yn sgil gwiriadau newydd ar fewnforion a rheolau ynghylch tarddiad.
“Beth mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ei wneud yn bersonol er mwyn mynd i’r afael â hyn, ac a fydd e’n sicrhau fod cynhyrchwyr amaethyddol Cymreig ddim yn colli allan drwy’r fargen arfaethedig ag Awstralia?”
“Cyn belled ag y mae’r materion y mae’n ei godi gyda’r sector modurol mewn cwestiwn, rydyn ni wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r sector, rydyn ni’n cael cyfarfodydd cyson gyda’r rhanddeiliad, cadwyni cyflenwi, ac eraill er mwyn canfod beth yn union yw’r materion, a sut gellir eu cynnwys yn gyflym. Felly rydyn ni mewn cyswllt ar y lefel honno,” meddai Simon Hart AS wrth ymateb.
“Cyn belled ag y mae’r sïon ynghylch y Cytundeb Masnach Rydd ag Awstralia yn y cwestiwn, dylwn i bwyntio allan iddo nad oes yr un fargen wedi cael ei gwneud, ond os a pan fydd hi’n cael ei gwneud bydd yn cynnwys ffyrdd o warchod y diwydiant amaeth, a ni fydd yn tan-dorri ffermwyr y Deyrnas Unedig, nag yn peryglu ein safonau uchel.”
“Taflu ffermwyr a chrofftwyr dan fws Brexit”
Ac yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, mae Llywodraeth Boris Johnson yn “cynllunio i daflu” ffermwyr yr Alban “dan fws Brexit”.
Mae Ian Blackford wedi rhybuddio y byddai’r fargen yn golygu diwedd llawer o grofftwyr a ffermwyr yr Alban, ac mae e wedi annog Boris Johnson i anghofio am y fargen.
“Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig arwain ar fradychu’r diwydiant pysgota yn yr Alban, a nawr mae’r Torïaid yn cynllunio i daflu ffermwyr a chrofftwyr dan fws Brexit.
“Dw i’n gwybod fod nifer o gydweithwyr Torïaidd y Prif Weinidog yn cytuno gyda fi, ac eisiau iddo gamu’n ôl o’r fargen.”
Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson fod Boris Johnson yn gwneud anghyfiawnder â ffermwyr a chrofftwyr, gan fychanu eu gallu i wneud “pethau gwych” gyda bargeinion masnach rydd.
“Pam nad ydy e’n credu yn yr hyn mae pobol yr Alban yn gallu ei wneud?” gofynnodd Boris Johnson.
“Pam fod arno gymaint o ofn masnach rydd?”
“Brwydr ffyrnig”
Mae lle i gredu bod yna “frwydr ffyrnig” oddi fewn i Lywodraeth Prydain wrth iddyn nhw geisio penderfynu a ddylid cymeradwyo cytundeb masnach ag Awstralia, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr Adran Amaeth a’r Adran Fasnach Ryngwladol yn anghydweld ynghylch amodau’r cytundeb.
Gallwch ddarllen mwy am hynny, isod.