Mae Boris Johnson wedi dweud na ddylai pobol deithio i wledydd sydd ar y rhestr oren oni bai fod yr “amgylchiadau’n eithafol”.

Fe wnaeth Prif Weinidog Prydain gadarnhau na ddylai pobol deithio i lefydd fel Sbaen a Ffrainc, sydd ar y rhestr oren, gan fynnu bod ei safbwynt yn “hollol glir”.

Dylai pobol ond deithio i’r gwledydd ar y rhestr oren “dan amgylchiadau eithafol, er enghraifft fod aelod o’r teulu yn ddifrifol wael”, meddai.

“Ni ddylech chi fynd i wledydd sydd ar y rhestr oren er mwyn mynd ar wyliau,” meddai Boris Johnson wrth Aelodau Seneddol.

“Os ydych chi’n teithio i wlad oren yn sgil argyfwng, unrhyw reswm eithafol sydd gennych chi fod rhaid mynd, pan ydych chi’n dychwelyd, rhaid i chi dalu am y profion a hunanynysu am ddeng niwrnod – byddwn ni’n goruchwylio, ac rydyn ni’n goruchwylio, a gallai pobol sy’n methu ag ufuddhau i hunanynysu wynebu dirwy o hyd at £10,000.”

Daeth ei sylwadau wrth iddo geisio rhoi eglurder ynghylch dryswch am ei neges am deithio i lefydd ar y rhestr oren, gan fod teithio’n cael ei ganiatáu, ond nid ei annog.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cynghori pobol i beidio â mynd dramor eleni, ac i fanteisio, yn hytrach, ar y cyfle i fynd ar wyliau yng Nghymru.

Undeb Ewropeaidd yn newid polisi

Mae’r gwledydd sydd ar y rhestr werdd yn cynnwys llefydd fel Portiwgal, Gibraltar, Israel, Awstralia, a Brunei, ac nid oes rhaid i bobol hunanynysu wrth ddod yn ôl o’r gwledydd hyn, ond mae’n rhaid iddyn nhw gymryd un prawf Covid-19 wrth gyrraedd.

Ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd yn ôl o wledydd sydd ar y rhestr oren, mae’n rhaid hunanynysu am ddeng niwrnod.

Ond, mae’r rheolau wedi achosi dryswch gyda gweinidogion yn gwrthddweud ei gilydd, ac yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, mae’r “Llywodraeth wedi colli rheolaeth ar eu negeseuon”.

Daeth cadarnhad Boris Johnson wrth i’r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi eu bod nhw am ganiatáu i bobol o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn i deithio yno dros yr haf.

Mewn cyfarfod heddiw (Mai 19), fe wnaethon nhw argymell newid y rheolau er mwyn caniatáu ymweliadau anhanfodol i’r Undeb Ewropeaidd.

Ysgrifennydd Cymru’n gofyn i bobol ystyried pa mor “hanfodol” yw mynd ar wyliau

Daw ei sylwadau wrth i Boris Johnson wynebu pwysau i gynnig eglurder ynghylch teithio rhyngwladol