Mae Ysgrifennydd Cymru yn dweud y dylai pobol ofyn i’w hunain a yw mynd ar wyliau i wledydd sydd ar y rhestr deithio oren yn “hanfodol”.

Wrth siarad â Times Radio, dywedodd Simon Hart y “gallai rhai pobol feddwl fod gwyliau yn hanfodol”.

Daw ei sylwadau wrth i Boris Johnson wynebu pwysau i gynnig eglurder ynghylch teithio rhyngwladol yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Mae’n debyg y bydd gofyn iddo gadarnhau pa wledydd sy’n ddiogel i bobol fynd ar eu gwyliau iddyn nhw, wedi i un o’i weinidogion ddweud bod pob taith ryngwladol yn “beryglus”.

Cafodd teithio dramor ei ganiatáu ddydd Llun (Mai 17), gyda nifer o wledydd ar y rhestr werdd, a nifer yn rhagor ar y rhestr oren.

Mae Boris Johnson wedi pwysleisio nad yw’r llefydd ar y rhestr oren “yn llefydd y dylech chi fod yn mynd iddyn nhw ar wyliau”.

Ddydd Mawrth (Mai 18), dywedodd llefarydd swyddogol y prif weinidog Prydain mai dim ond i wledydd ar y rhestr werdd y dylai pobol fynd iddyn nhw ar wyliau neu am resymau hamdden.

Er hynny, dywedodd George Eustace, Gweinidog yr Amgylchedd, y gallai pobol fynd i wledydd sydd ar y rhestr oren cyn belled â’u bod nhw’n dilyn rheolau hunanynysu ar y ffordd yn ôl.

Yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe, dywedodd gweinidog arall, yr Arglwydd Bethell, ei fod yn ystyried yr holl deithio dramor yn “beryglus” ac fe wnaeth e annog pobol i fynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig eleni.

“Mae teithio yn beryglus,” meddai.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol, yn enwedig wrth i ni gyrraedd yr haf, nad yw teithio ar gyfer eleni, plîs arhoswch yn y wlad hon.”

“Dryswch”

Yn ôl Prif Weithredwr Airline UK, bydd sylwadau’r Arglwydd Bethell yn achosi “dryswch” i deuluoedd sydd wedi archebu gwyliau.

“Nid yw’r sylwadau yma yn gywir, a byddan nhw’n achosi dicter gwirioneddol ymysg cannoedd ar filoedd o bobol sy’n dibynnu ar deithio rhyngwladol ar gyfer eu bywoliaeth, a dryswch ymysg teuluoedd sydd wedi archebu gwyliau dan bolisi ailddechrau’r Llywodraeth eu hunain,” meddai Tim Alderslade.

“Ni ddylai pobol deithio i’r gwledydd ar y rhestr goch, rydyn ni’n gwybod hynny, ond mae cyffredinoli yn erbyn teithio cwbl gyfreithlon, hyd yn oed i wledydd gwyrdd, yn hynod annefnyddiol.”

Daeth y feirniadaeth wedi i adroddiadau awgrymu bod miloedd o bobol wedi hedfan i wledydd fel Ffrainc, Gwlad Groeg, Sbaen a’r Unol Daleithiau – gwledydd nad ydyn nhw ar y rhestr werdd – gyda mwy na 150 o awyrennau wedi gadael y Deyrnas Unedig ddydd Llun (Mai 17).

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cynghori pobol i beidio â mynd dramor eleni, ac i fanteisio, yn hytrach, ar y cyfle i fynd ar wyliau yng Nghymru.

Dysgu gwersi

Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur wedi cyflwyno cynnig i orfodi’r Llywodraeth i gyhoeddi’r gwersi yn sgil y pandemig er mwyn amddiffyn eu cynllun i gael gwared ar holl gyfyngiadau Covid-19 erbyn Mehefin 21 yn Lloegr.

Daw hyn wedi i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) ddarganfod fod y pandemig wedi “amlygu diffygion o fewn y gymdeithas, ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau”.

Dywed Gareth Davies, pennaeth yr NAO, fod “angen datrysiadau tymor hir” ar y system gofal cymdeithasol o ran diffyg staff a phwysau ariannol ar ôl y pandemig.

Mae disgwyl y bydd y Blaid Lafur yn manteisio ar ddarganfyddiadau’r adroddiad, gan alw ar y Llywodraeth i gyhoeddi adolygiad mewnol i’r ffordd y maen nhw wedi ymdopi â’r pandemig, er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu a bod manteisio arnyn nhw er mwyn mynd i’r afael ag amrywiolyn India.

Bydd Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud yn ystod y drafodaeth olaf ar Araith y Frenhines fod “Boris Johnson wedi addo amserlen ddi-droi’n-ôl er mwyn dychwelyd at normalrwydd”.

Fe fydd e’n dweud: “Gyda lledaeniad yr amrywiolyn B1617.2 yn bygwth ein dal yn ôl, rydyn ni angen gweithredu brys gan weinidogion i reoli’r amrywiolyn.”

Mae gweinidogion wedi gwrthod cyflwyno trefn haenau lleol i geisio rheoli’r amrywiolyn, ac mae Boris Johnson wedi dweud nad oes tystiolaeth “derfynol” sy’n cyfiawnhau anwybyddu’r amserlen.