Mae newyddiadurwraig adnabyddus o Gymru wedi canmol dau seren o Hollywood am eu hagwedd at y Gymraeg.
Actorion hynod enwog yw Rob McElhenney a Ryan Reynolds a nhw yw perchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam.
Mae cyfres ddogfen wrthi’n cael ei chreu am y clwb, Welcome to Wrexham, ac er mwyn tynnu sylw at hyn mae’r sêr wedi cyhoeddi clip byr ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn y clip mae’r newyddiadurwraig, Maxine Hughes, yn chwarae rhan cyfieithydd swyddogol y deuawd enwog ac yn gwneud hwyl am eu pennau yn y Gymraeg.
Mae’r sêr yn “fois rili hyfryd”, meddai’r Gymraes, ac mi gafodd “lot o hwyl” yn ffilmio’r clip â nhw. Ond yn anad dim, eu hagwedd at y Gymraeg sydd gliriaf yn ei chof.
“Yr holl amser pan oedden ni’n ffilmio roedden nhw’n siarad gyda fi lot a’n deud: ‘Rydan ni isio gwneud yn siŵr ein bod yn barchus i’r iaith Gymraeg’,” meddai wrth golwg360.
“Rodden nhw’n trio cymryd y mic allan o’ nhw’u hunain yn hytrach na’r Gymraeg. Ac roedden nhw rili yn meddwl am hynna.
“Roedden nhw’n dod ata’ i lot, ac yn gofyn: ‘Ydy hwn yn swnio’n iawn? Ydy hwn yn mynd i fod yn iawn?’ Roeddwn i’n rili mpressed efo hynna.”
Mae cefnogwyr pêl-droed yn ddigon cyfarwydd â pherchnogion tramor ariannog yn prynu eu clybiau ac yn gweithredu heb dalu hid i’r ffans.
Ond mae pethau’n wahanol â’r selebs yma, yn ôl Maxine Hughes.
“Roedd o’n amlwg yn syth bod ganddyn nhw ddiddordeb mawr yng Nghymru a Wrecsam,” meddai. “Dydyn nhw ddim yn gwneud y prosiect fel rhyw fath o publicity stunt.
“Yn bendant mae ganddyn nhw ddiddordeb yn yr ardal. Maen nhw isio bod yn rhan o’r gymuned, ac maen nhw isio gwneud yn siŵr eu bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”
#welcometowrexham ??????? ?? ?? pic.twitter.com/uOdkz2pimk
— Rob McElhenney (@RMcElhenney) May 18, 2021
Rob McElhenney yn dysgu Cymraeg
Mae Rob McElhenney, actor a’r brêns creadigol tu ôl cyfres It’s Always Sunny in Philadelphia, eisoes wedi trydaru negeseuon Cymraeg.
Ond bydd rhai yn synnu o glywed ei fod wrthi’n dysgu iaith y nefoedd.
“Roedd Rob yn deud wrtha’ i: ‘Dw i actually yn dysgu Cymraeg’,” meddai. “Mae o’n gwneud gwersi. Mae o’n dysgu Cymraeg.
“Roedd e’n canu ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ i fi. Ro’n i mor impressed. Roedd o’n berffaith.
“Mae o’n cael gwersi ac mae o’n ymarfer lot,” atega. “Mae ganddyn nhw loads o ddiddordeb mewn hanes Cymru, diwylliant Cymru, yr iaith Gymraeg. Mae o’n rili dda.
“Mae o’n gallu siarad Cymraeg yn eitha’ da. Mae’n rili gwd!”
Ar ôl y ffilmio roedd Rob McElhenney yn sôn am ei awydd o gynnwys y Gymraeg yn y gyfres ddogfen am y clwb, a dywedodd wrth Maxine Hughes bod hynny’n bwysig iddo.
“Maen nhw rili eisiau rhoi Cymru ar y map,” meddai. “Ac mae’n bwysig iawn iddyn nhw bod yr iaith Gymraeg yn y promo yma ac yn cael ei glywed dros y byd.”
Gadewch i ni fynd Cochion! Os ydych chi'n cwyno am beidio â deall hyn, defnyddiwch google translate chi cachu diog. Mae'n 2021. ??????? ?? ?? @Wrexham_AFC @VancityReynolds pic.twitter.com/YOH5xPosnm
— Rob McElhenney (@RMcElhenney) April 17, 2021
Landio’r job
Cwestiwn amlwg sy’n codi yw: Sut ar y ddaear wnaeth y newyddiadurwraig ddiweddu fyny yn y fideo?
Mae hi’n dweud bod y sêr wedi creu hysbyseb am y rôl, a’i bod hi wedi ymateb i’r hysbyseb honno wedi i sawl berson dynnu ei sylw tuag ati.
Roedd yr hysbyseb yn gofyn am siaradwr Cymraeg yn Hollywood, doedd dim sôn am y selebs, ac roedd Maxine Hughes yn credu taw jôc oedd y cyfan yn wreiddiol.
Ar ôl iddi gysylltu â’r cyfarwyddwr castio mi welodd enwau’r deuawd ar y sgript, mi benderfynodd rhoi cynnig arni, ac mi gafodd hi’r job.
Mae’n dweud ei bod wedi cael “ymateb positif iawn” ac mae hi’n dweud bod “yr ymateb gan gymuned y Cymry Cymraeg yn ffantastig”.