Mae cyn-bostfeistr a chynghorydd o Ynys Môn a gollodd ei sedd ar ôl cael ei garcharu’n anghywir am gamgymeriadau a wnaed gan system TG ddiffygiol yn mynd i gael cydnabyddiaeth gan yr awdurdod am y “gamweinyddiad cyfiawnder ofnadwy”.
Yn 2006 cafodd Noel Thomas, cyn-gynghorydd Plaid Cymru a oedd yn helpu i redeg Swyddfa’r Post yng Ngaerwen, ei garcharu am naw mis ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o gyfrifyddu ffug ar ôl i system TG ddangos bod £48,000 wedi mynd ar goll o’r cyfrifon.
Y camweinyddiad cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain
Nid tan yn llawer diweddarach y daeth i’r amlwg bod Mr Thomas, sydd bellach yn 74 oed, yn un o nifer o is-bostfeistri a oedd wedi’u collfarnu’n anghywir o ddwyn, twyll a chyfrifyddu ffug, a hynny oherwydd system gyfrifyddu ddiffygiol Horizon.
Fis diwethaf, ar ôl 16 mlynedd o ymladd i glirio ei enw, cafodd euogfarnau Mr Thomas a 38 o is-bostfeistri eraill eu diddymu yn Llys Apêl Llundain, a disgwylir canfyddiadau ymchwiliad ar wahân gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr haf hwn.
Gyda mwy na 700 o bobl wedi cael eu herlyn rhwng 2000 a 2014, caiff y sgandal ei disgrifio’n aml fel y camweinyddiad cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain.
Cynghorydd piblogaidd
Ond wedi i Mr Thomas ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru ar y cyngor a chael ei atal yn ddiweddarach rhag gwasanethu’r awdurdod yn dilyn ei garchariad, mae cynghorwyr presennol Ynys Môn hefyd wedi penderfynu cydnabod yn gyhoeddus y “camweinyddiad cyfiawnder ofnadwy.”
Cyflwynodd y Cynghorydd Bob Parry, a oedd hefyd yn gydweithiwr i Mr Thomas yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd Llanfihangel Ysgeifiog, gynnig yn ystod cyfarfod llawn y cyngor ddydd Mawrth a oedd yn nodi: “Dioddefodd Noel oherwydd system gyfrifiadurol ddiffygiol, ond ar ôl i brwydr hir, gweinyddwyd cyfiawnder o’r diwedd.
“Roedd Noel yn gynghorydd poblogaidd ac yn golled i’w gymuned ac alla’ i ddim dychmygu pa mor anodd oedd y cyfan i’w deulu.
“Ni fyddaf fyth yn anghofio’r darlun hwnnw ohono’n cael ei arwain i gefn fan heddlu, ond fe’i cefnogwyd gan bobl Gaerwen drwyddi draw.
“Fel arfer, rydym yn cyflwyno rhodd i aelodau sy’n ymddeol ac rwy’n teimlo y byddai hyn yn briodol yn yr achos hwn ac yn eich annog i gefnogi hyn.”
“Dangos ein cefnogaeth a’n parch”
Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, a nododd fod Mr Thomas wedi’i ethol am y tro cyntaf i hen Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn ym 1986: “Mae’r teulu wedi bod trwy uffern dros y blynyddoedd.
“Ni fydd unrhyw swm o iawndal yn gwneud iawn am y camweinyddiad cyfiawnder hwn ond mae’n iawn ein bod ni fel cyngor yn dangos ein cefnogaeth a’n parch tuag at Noel a’i deulu.”
Cefnogwyd cynnig y Cynghorydd Parry yn unfrydol, gyda’r Cynghorydd Alun Mummery yn dweud nad oedd Mr Thomas “erioed wedi colli ei hunan barch.”
O ganlyniad, bydd Mr Thomas yn cael ei wahodd i fynychu’r cyfarfod llawn nesaf yn siambr y cyngor fel y gellir cyflwyno “pleidlais ffurfiol o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth ffyddlon fel cynghorydd sir.”