Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi cynyddu’r pwysau ar Israel i roi terfyn ar y rhyfel gyda Palesteina, gan egluro mewn galwad gyda’r Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu ei fod yn disgwyl “tawelu sylweddol” erbyn diwedd y dydd.

Gofynnodd Joe Biden i Benjamin Netanyahu symud “tuag at derfyn ar y rhyfela”, yn ôl disgrifiad y Tŷ Gwyn o’u sgwrs.

Daeth ei alwad wrth i bwysau gwleidyddol a rhyngwladol gynyddu arno i ymyrryd yn fwy grymus i geisio dod â’r rhyfela i ben.

Tan ddydd Mercher (Mai 19) roedd Joe Biden wedi osgoi pwyso ar Israel yn fwy uniongyrchol ac yn gyhoeddus.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi dweud ei bod yn gweithio yn hytrach, ar “ddiplomyddiaeth dawel, ddwys”.

Ddydd Llun, Mai 17, fe wnaeth yr Unol Daleithiau rwystro am y trydydd tro yr hyn a fyddai wedi bod yn ddatganiad unfrydol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn mynegi “pryder difrifol” ynghylch y gwrthdaro’n dwysáu rhwng Israel a Palesteiniaid a cholli bywydau dinasyddion.

Bu’r Aifft a rhai eraill yn gweithio heb lwyddiant i ddod â’r trais i ben, tra bod swyddogion Hamas wedi dweud yn gyhoeddus y byddent yn parhau i saethu rocedi at Israel cyn belled â bod Israel yn parhau i gynnal ymosodiadau awyr.

Dywedodd prif arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh, yr wythnos hon fod y Cenhedloedd Unedig, Rwsia, yr Aifft a Qatar wedi cysylltu â’r grŵp fel rhan o’r ymdrechion i ddod a diwedd i’r trais.

Ond dywedodd “na fyddwn yn derbyn ateb nad yw’n cydnabod aberth pobol Palesteina”.

Nid oedd Benjamin Netanyahu wedi rhoi unrhyw arwydd o gynlluniau i ddirwyn ymosodiadau awyr Israel i ben ar unwaith gan dargedu arweinwyr Hamas a thwneli cyflenwi yn Gaza, tiriogaeth sy’n gartref i fwy na dwy filiwn o bobol.

“Gallwch naill ai eu gorchfygu, ac mae hynny bob amser yn bosibilrwydd agored, neu gallwch eu hatal,” meddai wrth lysgenhadon tramor.

“Rydyn ni’n cynnal ataliad grymus ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i mi ddweud, dydyn ni ddim yn diystyru unrhyw beth.”

Mae’r ymladd, sef y trais gwaethaf rhwng Israel a Phalesteina ers 2014, wedi lladd o leiaf 219 o Balesteiniaid a 12 o bobol yn Israel.