Roedd siom i dîm criced Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Fercher, Mehefin 16), wrth iddyn nhw golli o 40 rhediad yn erbyn Caint yng Nghaerdydd – ac mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard yn dweud na allan nhw barhau i ddibynnu ar Marnus Labuschagne a Nick Selman am rediadau bob gêm.

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, sgoriodd yr ymwelwyr 144 am saith yn eu hugain pelawd, cyn bowlio Morgannwg allan am 104 mewn 17.4 pelawd wrth i’r seren o Awstralia, Marnus Labuschagne fethu â thanio am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.

Roedd rhai arwyddion addawol ymhlith y bowlwyr eto, gyda’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, y troellwr coes Labuschagne a’r bowliwr lled-gyflym Dan Douthwaite yn cipio dwy wiced yr un.

Seren y noson oedd Matt Milnes, a gipiodd bum wiced am 22 i’r Saeson.

Batiad Caint

Collodd Caint wicedi cyson yn ystod y cyfnod clatsio cyn dechrau adferiad bach tua’r diwedd i sicrhau cyfanswm digon parchus.

Ddwy belen yn unig gymerodd hi i Sisodiya gipio wiced, wrth daro coes y capten Daniel Bell-Drummond o flaen y wiced heb sgorio, cyn i James Weighell waredu Joe Denly wrth i’r batiwr roi daliad i Nick Selman.

Roedden nhw’n 37 am ddwy ar ôl y chwe phelawd agoriadol, ond collon nhw eu trydedd wiced odd ar y belen ganlynol, wrth i Sisodiya daro eto i waredu Zak Crawley, a gafodd ei ddal gan Douthwaite am 15.

Cwympodd y bedwaredd wiced yn y deuddegfed pelawd wrth i Labuschagne waredu Jack Leaning, a gafodd ei ddal gan y capten a wicedwr Chris Cooke am 14, a’r sgôr yn 75.

Roedden nhw’n 77 am bump yn y belawd ganlynol wrth i Sam Billings gael ei fowlio gan Douthwaite am 30, ail sgôr gorau Caint y tu ôl i Jordan Cox (32 heb fod allan).

Daeth ychydig o adferiad gyda Darren Stevens, y chwaraewr amryddawn 45 oed, wrth y llain a sgoriodd hwnnw 14 cyn i Selman gipio ail ddaliad oddi ar fowlio Labuschagne, a’r bowliwr yn gorffen gyda dwy wiced am 22 yn ei bedair pelawd.

Ychwanegodd Cox a Grant Stewart 34 at y cyfanswm cyn i Stewart gael ei fowlio gan Douthwaite am 15, a hwnnw’n gorffen gyda dwy wiced am 17 mewn tair pelawd.

Cwrso’n ofer

Dim ond pum o fatwyr Morgannwg gafodd sgôr ffigurau dwbwl ar noson hynod siomedig iddyn nhw ar ôl perfformiadau campus Labuschagne yn ddiweddar.

Collon nhw wicedi’n llawer rhy aml i allu adeiladu partneriaethau, ac mae’n adrodd cyfrolau mai’r bowliwr James Weighell (24) gafodd sgôr gorau’r noson i’r sir.

Roedden nhw’n saith am un yn yr ail belawd wrth i Matt Milnes waredu David Lloyd, a gafodd ei ddal gan Leaning am un.

Roedd Selman yn ôl yn y pafiliwn yn y bumed pelawd wrth iddo gael ei ddal gan Crawley oddi ar fowlio Stewart am ddeg, a Morgannwg yn 24 am ddwy.

Yn union fel Caint, roedd Morgannwg wedi colli eu trydedd wiced yn fuan ar ôl y cyfnod clatsio, wrth i Labuschagne gael ei ddal gan Milnes oddi ar ei fowlio’i hun am 22, a’r sgôr yn 42 am dair.

Union hanner ffordd, collon nhw Colin Ingram am 17 yn yr un modd â Labuschagne i’w gadael nhw’n 59 am bedair ar ôl deg pelawd.

Cafodd Kiran Carlson ei ddal gan Billings oddi ar fowlio Denly am un yn y deuddegfed pelawd cyn colli Douthwaite yn y belawd ganlynol wrth iddo fe gael ei ddal gan Denly oddi ar fowlio Qais Ahmad.

Sgoriodd Cooke 18 cyn cael ei ddal gan Leaning oddi ar fowlio Fred Klaassen i’w gadael nhw’n 84 am saith, cyn i’r bowliwr droi’n faeswr da a chipio daliad oddi ar fowlio Stewart i waredu Andrew Salter am dri.

Tarodd Milnes ddwywaith yn niwedd yr ornest i gipio dwy wiced oddi ar ddwy belen, gyda Weighell yn cael ei ddal gan Cox a Sisodiya yn rhoi daliad i Crawley i ddirwyn yr ornest i ben.

Ymateb

“Ddaru ni ddim cychwyn unrhyw bartneriaethau o gwbl yn y batiad,” meddai Matthew Maynard.

“Rydach chi’n cael hynny weithiau mewn criced T20.

“Roedd o’n ddechreuad araf i gael y momentwm yn ôl ond ddaru o fyth ddigwydd.

“Roedd hi’n llain anodd i fatio arni – ddaru’r ddau dîm gael hynny.

“Mae hynny’n siomedig iawn.

“Mae rhai chwaraewyr yn fan’no yn brifo oherwydd maen nhw’n gwybod eu bod nhw wedi gadael eu hunain i lawr heno.

“Rhaid i chi chwarae yn ôl eich greddf mewn criced T20 ac roedd y reddf honno ychydig i ffwrdd ohoni heno.

“Efallai ddaru ni ddim ymrwymo i’n hergydion ond ro’n i’n meddwl fod Milnes wedi bowlio’n wych ac mi gymerodd o ddaliad gwych oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Marnus Labuschagne, sydd wedi bod yn wych i ni.

“Allwn ni ddim jyst dibynnu ar Marnus a Nick Selman, mae’r batwyr eraill yn y tîm i sgorio rhediadau hefyd.”