Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cipio pwynt yn eu gêm agoriadol yn Ewro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku.

Cafodd y Swistir y rhan fwyaf o’r meddiant drwy gydol y gêm ac fe ddaeth eu gôl ar ôl 49 munud.

Eiliadau ynghynt roedd Danny Ward wedi gwneud arbediad campus o gic gornel i atal Breel Embolo rhag sgorio.

Ond fe ddaeth y gôl oddi ar y gic gornel a ddilynodd, wrth i Embolo ddal ei dir yn erbyn Connor Roberts i benio’r bêl heibio’r golwr.

Byddai angen newid tacteg ar Gymru i daro’n ôl, ac fe ddaeth y gôl hollbwysig oddi ar gic gornel fer ar ôl 74 munud.

Roedd Joe Morrell wedi cael gêm dawel hyd nes iddo groesi’r bêl i lwybr Moore, oedd â gwagle yn y cwrt cosbi i benio’r bêl heibio’r golwr – ei chweched gôl mewn 18 o gemau dros ei wlad.

Roedd hi’n edrych yn debygol fod y Swistir wedi cipio’r triphwynt chwe munud cyn y diwedd.

Ond ar ôl troi at VAR, fe ddaeth i’r amlwg fod Mario Gavranovic yn camsefyll pan darodd e foli i’r gôl.

Mae’r canlyniad yn gadael Cymru’n ail yng ngrŵp A a’r Swistir yn drydydd, gyda’r Eidal ar y brig â thriphwynt ar ôl curo Twrci sydd ar y gwaelod.

‘Mae’n wych yn bersonol’

“Mae’n wych yn bersonol,” meddai Kieffer Moore ar ddiwedd y gêm.

“Dw i’n credu ei fod yn ddechrau da i ni.

“Bydden ni wedi hoffi buddugoliaeth ond mae cipio gêm gyfartal o’r gêm gyntaf i’n rhoi ni mewn sefyllfa dda yn bopeth i ni.

“Dydy hi byth yn dda mynd un gôl ar ei hôl hi ond i ni gael gôl yn ôl a gweld y gêm drwodd yn beth positif iawn i ni.

“Yn amlwg mae hwn yn achlysur mawr a dw i wedi caru pob eiliad ohono.”

‘Hapus i gael rhywbeth allan o’r gêm’

Does dim amheuaeth mai’r golwr Danny Ward oedd seren y gêm, wrth iddo gadw Cymru ynddi yn erbyn ymosodiadau cyson gan y Swistir.

Ac fe ddywedodd ar ddiwedd y gêm ei fod e’n “hapus i gael rhywbeth allan” ohoni.

“Y dyhead sydd gynnon ni ydi ein seiliau,” meddai.

“Mae gynnon ni gwpwl o gemau anodd i ddod eto ond dydych chi ddim eisiau cychwyn unrhyw dwrnament efo colled.

“Bum mlynedd yn ôl, ddaru ni lwyddo i ennill ond roedd hi jyst yn bwysig heddiw i beidio â cholli.

“Pe baen ni wedi gofalu am y bêl ychydig yn well, efallai na fydden ni wedi gorfod rhedeg o amgylch gymaint, ond mae’n rhywbeth i adeiladu arno fo.

“Ddaru ni wylio gêm Twrci neithiwr ac mi fyddwn ni’n gweithio tuag at honno rŵan.”

‘Mae’n teimlo fel buddugoliaeth’

Yn ôl y rheolwr Robert Page, mae’r canlyniad “yn teimlo fel buddugoliaeth”.

“Roedden ni eisiau dechrau’n bositif ac mae hi’n teimlo fel buddugoliaeth yn yr ystafell newid,” meddai.

“Dw i mor falch o’r chwaraewyr am hynny ac am gloddio’n ddwfn yn y diwedd.

“Gawson ni rywfaint o lwc gyda’r camsefyll hefyd ond dyna’r dechreuad roedden ni’n edrych amdano, perfformiad positif ac fe ges i hynny allan ohonyn nhw’n sicr.”

Wrth edrych tua’r gêm nesaf, mae’n dweud y bydd Twrci’n “wrthwynebwyr gwahanol”.

“Dydy hynny ddim yn amharchu Twrci o gwbl,” meddai.

“Byddwn ni’n wynebu gwrthwynebwyr gwahanol i’r hyn wnaethon ni ei wynebu heddiw.

“Roedden ni’n gwybod y byddai’r Swistir yn cael tipyn o’r bêl gyda’r ffordd wnaethon nhw chwarae, felly roedd angen i ni fod yn gadarn ac yn drefnus iawn yn amddiffynnol ac ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny yn yr hanner cyntaf.

“Dywedais i hanner amser ein bod ni’n gwneud y pethau cywir yn amddiffynnol, roedd Shaqiri yn achosi ambell broblem i ni wrth wrthymosod lle’r oedd e’n mynd y tu ôl a’r ymosodwr yn cwympo i mewn.

“Roedd hi braidd yn anffodus fod bylchau’n dechrau ymddangos yn yr ail hanner a phan ydych chi’n chwarae yn erbyn timau o’r fath, maen nhw’n ecsbloetio’r bylchau.”