Mae Gary Lineker, cyflwynydd rhaglenni pêl-droed y BBC, wedi dymuno “pob lwc” i dîm pêl-droed Cymru mewn neges Gymraeg ar Twitter.

Daw hyn ar ôl i gyflwynydd rhaglenni pêl-droed y BBC fod yn siarad â Robbie Savage, cyn-chwaraewr canol cae Cymru, yn ystod darllediad byw o gêm yr Eidal yn erbyn Twrci neithiwr (nos Wener, Mehefin 12).

Yn ystod y cyfweliad, cyfeiriodd Robbie Savage at Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wrth iddo fethu â dymuno pob lwc i Gymru wrth gyfarch timau Lloegr a’r Alban “ac unrhyw un arall all fod yn chwarae”.

“Os yw Boris Johnson yn gwylio yfory, mae Cymru yn y twrnament,” meddai Savage ar wal fideo wrth i Lineker chwerthin yn y cefndir.

“Byddai’n dda pe baen nhw’n gallu cyrraedd yr 16 olaf.

“Hen Gymru fach eto.

“Dw i’n credu y dylai Boris sylweddoli bod Lloegr wedi cael eu curo o’r gystadleuaeth gan Wlad yr Iâ yn y twrnament diwethaf a chyrhaeddodd Cymru y rownd gyn-derfynol.

“Ond hei-ho.”