Mae Kieffer Moore wedi’i gynnwys yn nhîm Cymru i herio’r Swistir (2 o’r gloch).
Daw hyn ar ôl cryn ddyfalu am siâp tîm Robert Page ar gyfer gêm gynta’r tîm cenedlaethol yn yr Ewros yn Baku.
Yn y gôl, mae Danny Ward wedi’i ddewis y tu ôl i’r llinell amddiffynnol – Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon a Ben Davies.
Gyda Moore, Gareth Bale a Dan James wedi’u cynnwys yn y blaen, y tri yn y canol yw Joe Allen, Joe Morrell ac Aaron Ramsey.
Mae hynny’n gadael Harry Wilson a Neco Williams ar y fainc.
Tîm y Swistir
Mae sawl wyneb cyfarwydd yn nhîm y Swistir.
Wedi’u cynnwys mae Granit Xhaka (Arsenal), Xherdan Shaqiri (Lerpwl) a Fabian Schär (Newcastle).
Maen nhw wedi gwneud saith newid i’r tîm oedd wedi rhoi crasfa o 7-0 i Liechtenstein yn eu gêm baratoaol olaf cyn y twrnament.
Tîm y Swistir: Y Sommer; N Elvedi, F Schär, M Akanji; K Mbabu, G Xhaka (capten), R Freuler, R Rodriguez; B Embolo, X Shaqiri, H Seferovic
Eilyddion: Y Mvogo, J Omlin, S Widmer, D Zakaria, R Vargas, S Zuber, D Sow, C Fassnacht, L Benito, A Mehmedi, M Gavranovic, E Comert
YN CYNRYCHIOLI CYMRU
??????? v ??
It’s time to make our country proud.#WAL | #EURO2020 | #CmonCymru | #TogetherStronger pic.twitter.com/fFxldh6nWI
— Wales ??????? (@Cymru) June 12, 2021