Pwrpas gemau cyfeillgar yw dysgu. Ac rydw i’n meddwl ein bod ni wedi dysgu dipyn o gemau cyfeillgar Cymru’r wythnos ddiwethaf.

Roedd y penderfyniad i roi cerdyn coch i Neco Williams yn erbyn Ffrainc yn warthus wrth gwrs. Ond os ydym ni yn mynd lawr i ddeg dyn yn erbyn tîm cryf yn yr Ewros, bydd y profiad yna yn werthfawr i Robert Page a’i chwaraewyr.