Mae’r gorwel mor hir yma.

Yn Ngwersyll Llangrannog, mae ysbryd can mil chwerthiniad. Ffynhonnell can mil cyfeillgarwch yn y glaswellt. Atgofion o’r teimladau byrbwyll, hyfryd, o sgïo am y tro cyntaf ar y llethr sych, a rhywle, os wrandawch chi’n astud, mae yna gôr o hen leisiau – sydd wedi hen fynd – yn dal i ganu ‘Ar Hyd y Nos’ cyn amser gwely.