Rydych chi’n berchen ar gae sy’n addas ar gyfer tyfu cennin – ond lle mae tatws yn tueddu pydru. Felly ry’ch chi’n cael trafferth gwneud digon o gawl cennin a thatws i’w werthu yn eich marchnad leol.

Mae gan eich cymydog gae lle mae tatws yn ffynnu, ond mae’r pridd caregog yn anaddas ar gyfer cennin. Mae e’n cael trafferth gwneud digon o pasties i’w gwerthu yn y farchnad.