Dw i wedi cael llond bol ar bobol yn cwyno o hyd ac o hyd am gynnydd mewn ail gartrefi a thai gwyliau a’r ffordd y mae’r farchnad dai yn cael ei hystumio’n llwyr gan hynny.

Hynny ydi, dw i wedi cael llond bol ar bobol yn cwyno am ddim ond ail gartrefi, heb weld fod y broblem yn fwy na thai haf. Symptom ydi ail gartrefi.