Yr hyn sydd wedi corddi eu beirniaid yw’r ffaith bod y ddwy wedi datgelu bod problemau iechyd meddwl wedi effeithio arnyn nhw, a’u gallu i gyflawni eu gwaith, yn ddiweddar.

Nadia Whittome oedd y gyntaf, yr Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Nottingham. Ddiwedd mis Mai datgelodd ei bod wedi derbyn cyngor meddygol i dreulio cyfnod bant o’r gwaith i fynd i’r afael â PTSD, Anhwylder Straen Wedi Trawma. Ymateb y Wasg adain dde, a throliau’r cyfryngau cymdeithasol, oedd ei gwawdio.