Mae BBC Cymru a chefnogwyr pêl-droed ledled y wlad wedi dod ynghyd i greu neges unigryw yn dymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru cyn eu gêm grŵp gyntaf yn yr Ewros yn erbyn y Swistir heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 12).

Mae’r côr rhithwir yn canu’r hyn sydd bellach wedi dod yn anthem bêl-droed answyddogol i gefnogwyr Cymru, ‘Can’t Take My Eyes Off You’.

Cafodd y gân, a gafodd ei recordio’n wreiddiol gan Frankie Valli, ei mabwysiadu gan gefnogwyr pêl-droed Cymru yn y 1990au yn dilyn trêl teledu BBC Cymru a oedd yn cynnwys y gân boblogaidd.

Ac mae’n dal i gael ei ganu gan Y Wal Goch heddiw.

Mae’r gân yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae cefnogwyr yn canu ar sgrin fawr mewn lleoliadau cyfarwydd ledled Cymru gan gynnwys Ynys y Barri, Y Cae Ras yn Wrecsam, Marina Abertawe, Pont Menai, Trwyn Yr As, Llandudno, Penrhiwceiber, Caerdydd, Castell Harlech, goleudy Whiteford a Phort Talbot.

Mae’n cynnwys cantorion a chefnogwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys aelodau Clwb Pêl-droed Penrhiwceiber Rangers AFC a disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, Caerdydd.

Mae modd gwylio’r fideo yma.