Mae’r Eidal wedi curo Twrci o 3-0 yng ngêm gynta’r Ewros yn Rhufain i fynd i frig grŵp Cymru.
Roedd yr Eidalwyr ar dân o flaen eu cefnogwyr eu hunain yn y Stadio Olimpico.
Daeth y gôl gyntaf wrth i Merih Demiral roi’r bêl yn ei rwyd ei hun ar ôl 52 munud wrth geisio atal croesiad Domenico Berardi, ac fe aeth yr Eidalwyr o nerth i nerth wedyn.
13 munud yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw ddyblu eu mantais drwy Ciro Immobile, wrth i hwnnw fanteisio ar ôl i’r bêl adlamu o arbediad oddi ar ergyd gan Leonardo Spinazzola.
Ac roedd y triphwynt yn gwbl ddiogel gyda Ciro Immobile yn creu gôl i Lorenzo Insigne ar ôl 78 munud.
Roedd yr Eidalwyr yn fwy hyderus o lawer yn yr ail hanner na’r hanner cyntaf – yn ystod y 45 munud agoriadol, daeth y cyfle gorau i Giorgio Chiellini â’i ben o gic gornel, gan orfodi’r golwr Ugurcan Çakir i wneud arbediad.
Digwyddiad mwyaf dadleuol yr hannner cyntaf oedd gwaedd am gic o’r smotyn pan darodd y bêl fraich Mehmet Zeki Çelik, ond penderfynodd VAR nad oedd hi’n drosedd.
Hon oedd y gyntaf o 51 o gemau fydd yn cael eu cynnal mewn 11 o ddinasoedd ledled Ewrop dros y mis nesaf, a Chymru yn erbyn y Swistir fydd yr ail gêm am 2 o’r gloch yfory (dydd Sadwrn, Mehefin 12).