Gyda Chymru yn dechrau eu hymgyrch Ewro 2020 yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn (11 Mehefin), mae golwg360 yn cymryd golwg ar y gwrthwynebwyr cyn y gêm yn Baku.

Mae’r Swistir yn cyrraedd Ewro 2020 wedi ennill pob un gêm y maen nhw wedi chwarae yn 2021.

Llwyddon nhw i drechu’r Ffindir, yr Unol Daleithiau a Liechtenstein ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf yn yr ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd 2022 yn erbyn Bwlgaria a Lithwania ym mis Mawrth.

Y tro diwethaf i’r Swistir golli oedd ym mis Tachwedd 2020, pan drechodd Gwlad Belg dîm Vladimir Petkicovic o 2-1 yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Y Rheolwr

A sôn am Vladimir Petkicovic, a fydd ganddo dric neu ddau i fyny ei lawes?

Cafodd ei benodi yn rheolwr y Swistir yn 2014, gan olynu Ottmar Hitzfeld.

Dechreuodd y gŵr 57 oed ei yrfa fel rheolwr yn y Swistir yn 1997, gan hyfforddi timau megis Lugano, Sion a Young Boys ymhlith eraill.

Treuliodd un tymor yn Nhwrci gyda Samsunspor hefyd.

Enillodd Petkovic y Coppa Italia gyda Lazio yn 2013, gan dreulio dau dymor yn yr Eidal, ac mae wedi tywys y Swistir i 16 olaf Ewro 2016 a Chwpan y Byd 2018.

Tactegau

Mae Petkovic yn dueddol o gadw ei wrthwynebwyr yn dyfalu ynghylch ei dactegau a pha system y bydd yn chwarae.

Mae’r ffaith bod chwaraewyr y Swistir wedi’u gwasgaru o amgylch cynghreiriau gorau Ewrop yn golygu bod carfan Petkovic yn gallu addasu.

Mae’r Swistir yn tueddu i chwarae mewn system 3-4-2-1 a 5-4-1, sy’n golygu y gallai ei system fod yn debyg neu’n union yr un fath â system Cymru.

Bydd y Swistir yn ystyfnig yn eu siâp amddiffynnol ac yn awyddus i wrth-ymosod yn gyflym, tra bod Xherdan Shaqiri o Lerpwl yn chwaraewr dawnus sy’n gallu creu a sgorio goliau.

Chwaraewyr gorau

Mae’r Swistir yn dîm cadarn, does dim dwywaith amdani.

Ymhlith eu chwaraewyr pwysicaf, mae’r gôl-geidwad Yann Sommer o Borussia Monchengladbach.

Mae ymosodwr Benfica, Haris Seferovic, hefyd yn un y bydd yn rhaid i amddiffynwyr Cymru gadw llygaid arno.

Granit Xhaka, chwaraewr canol cae Arsenal, yw’r chwaraewr sydd â’r mwyaf o gapiau yn y garfan, gan chwarae 94 o weithiau dros ei wlad.

A dyw Xherdan Shaqiri ddim ond tri y tu ôl i’r ffigwr hwnnw.

Mae Fabian Schar, amddiffynnwr Newcastle, yn ffigwr allweddol yn y cefn ac mae Ricardo Rodriguez a Kevin Mbabu yn fygythiadau i lawr yr esgyll.

Bydd y gic gyntaf am ddau o’r gloch brynhawn fory a does dim amheuaeth y bydd y ddau dîm yn ysu i ddechrau’r twrnament gyda thriphwynt.