Mae golwr Cymru Wayne Hennessey yn llygadu ei ganfed cap yn nhwrnament Ewro 2020 eleni.

Byddai hynny yn ei roi mewn clwb dethol gyda’r amddiffynnwr Chris Gunter, a enillodd ei ganfed cap wrth i Gymru drechu Mecsico ym mis Mawrth.

Mae gan Gunter 101 o gapiau erbyn hyn.

Ar hyn o bryd mae Hennessey yn cystadlu gyda Danny Ward i ddechrau yn y gôl yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn (12 Mehefin).

Bydd yn ennill cap rhif 96 dros ei wlad y tro nesaf y bydd yn chwarae.

Gydag o leiaf tair gêm grŵp i’w chwarae, a phosibilrwydd o symud ymlaen i’r rowndiau nesaf, gallai Hennessey ymuno â Gunter fel yr unig chwaraewyr arall i ennill 100 cap dros Gymru.

“Rwyf eisoes wedi chwarae 95 o weithiau dros Gymru a byddwn wrth fy modd yn chwarae mewn pump arall,” meddai Hennessey.

“Os daw hynny mewn gêm yn y twrnament hwn byddai hynny’n anhygoel. Byddai cael pum cap arall ac ymuno â Chris Gunter ar gant yn arbennig.

“Roeddwn i wrth fy modd pan gyrhaeddodd Chris 100 o gapiau. Mae’n chwaraewr gwych ac yn fachgen gwych.

“Mae cyrraedd y rhif hwnnw wedi bod yn gamp anhygoel.

“Rwy’n ei chymryd hi fesul gêm. Os ydw i’n chwarae un gêm, mi fydda i wrth fy modd.

“Mae pawb yn gwybod faint mae chwarae i fy ngwlad yn ei olygu i mi.

“Roedd cymhwyso eto ar gyfer twrnament mawr yn teimlo fel gwireddu breuddwyd.

“Mae cael y cyfle i gynrychioli fy ngwlad mewn twrnament rhyngwladol eto yn deimlad anhygoel.”

Hennessey yn bwriadu “synnu pawb eto”

Bum mlynedd yn ôl, methodd Hennessey fuddugoliaeth agoriadol Cymru tros Slofacia yn Bordeaux oherwydd anaf.

Ond dychwelodd i chwarae yn y gemau yn erbyn Lloegr, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg, cyn i Gymru golli yn erbyn y pencampwyr yn y pen draw, Portiwgal.

Does dim llawer o bobol yn disgwyl i Gymru fynd mor bell y tro yma, ond mae Hennessey yn mynnu bod gan garfan Robert Page y gallu i wneud yn dda.

“Alla i ddim gweld pam na allwn synnu pawb eto,” meddai.

“Mae’r garfan sydd gennym yn un gref iawn ac mae yna gymysgedd da o chwaraewyr hŷn ac iau.

“Mae gennym ymosodwyr gwych, felly rydym mewn sefyllfa dda i achosi problemau i dimau eraill.

“Mae Robert Page wedi dod i mewn ac wedi gwneud yn rhyfeddol o dda. Mae o’n llawn haeddu’r cyfle hwn ac rydym yn cael amser da gyda’n gilydd.

“Os gallwn ailadrodd yr hyn a wnaethom yn ôl yn 2016, byddai hynny’n anhygoel.

“Ond mae angen i ni ei chymryd hi un cam ar y tro.”