Ar ôl blwyddyn o aros, bydd twrnament Ewro 2020 yn dechrau heno (nos Wener, 11 Mehefin).
Cafodd y twrnament ei ohirio’r llynedd yn sgil pandemig y coronafeirws.
Bydd yr Eidal yn herio Twrci yn Rhufain yng ngêm gyntaf y twrnament, gyda’r gic gyntaf am 8 o’r gloch.
Mae’r ddau dîm yn yr un grŵp a Chymru, sydd hefyd yn cynnwys y Swistir.
?? Turkey came from behind to beat Switzerland #OTD at EURO 2008! ?
Will they beat Italy tonight? ?#EURO2020 pic.twitter.com/2BxCKMAOf7
— UEFA EURO 2020 (@EURO2020) June 11, 2021
Bydd ymgyrch Cymru yn dechrau ddydd Sadwrn (12 Mehefin), gyda thîm Rob Page yn herio’r Swistir yn Baku.
Yna, bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Twrci ym mhrifddinas Azerbaijan ar Fehefin 16, cyn herio’r Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.
Fe wnaeth Cymru oleuo Ewro 2016 yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal, y pencampwyr yn y pen draw.
Mae wyth o’r garfan honno wedi teithio y tro yma – Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies, Chris Gunter, Danny Ward, Joe Allen, Jonny Williams a Wayne Hennessey – gydag 19 o’r 26 chwaraewr â 25 cap neu lai.
Mae saith o’r garfan â llai na deg o gapiau ac mae Rubin Colwill wedi chwarae dim ond 191 o funudau o bêl-droed ar y lefel uchaf ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd fis Chwefror.
It’s getting real now.
Who’s excited? ?♂️?♀️#WAL | #EURO2020 | #TogetherStronger pic.twitter.com/SLQYntKznJ
— Wales ??????? (@Cymru) June 11, 2021
2,000 o Gymry yn Baku
Mae tua 2,000 o gefnogwyr Cymru wedi gwneud y daith 3,000 milltir ar gyfer y gemau yn erbyn y Swistir a Thwrci.
Mae’r cefnogwyr wedi teithio yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru, gydag Azerbaijan ar y ‘rhestr oren’, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobol archebu profion Covid-19 ar yr ail a’r wythfed diwrnod ar ôl iddyn nhw ddychwelyd.
Ddoe (dydd Iau, 10 Mehefin), dywedodd Elkhan Mammadov, pennaeth pêl-droed Azerbaijan, ei fod yn hyderus y bydd cefnogwyr Cymru yn ddiogel yn Baku.
“Rydym yn hyderus y bydd y cefnogwyr yn ddiogel ac rydym wedi lleihau’r risg drwy beidio â chael parthau cefnogwyr,” meddai.
Aaron Ramsey yn holliach
Mae Aaron Ramsey wedi tawelu meddyliau’r cefnogwyr gan ddweud mai penderfyniad bwriadol oedd methu sesiwn hyfforddi ychydig dros 48 awr cyn gêm agoriadol Cymru yn Ewro 2020 yn erbyn y Swistir.
Mae record ffitrwydd Ramsey wedi bod yn destun pryder i Gymru, wrth i seren Juventus ymddangos mewn dim ond 19 o’r 44 gêm maen nhw wedi’u chwarae ers Ewro 2016.
Fodd bynnag, mae’n mynnu na ddylai cefnogwyr Cymru boeni.
“Roedd e’n rhan o’r cynllun ’mod i’n aros oddi ar fy nhraed,” meddai Ramsey.
“Roedd yn sesiwn ysgafn iawn i’r bechgyn. Dwi i’n dda iawn ac yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn.”