Mae Elkhan Mammadov, pennaeth pêl-droed Azerbaijan, yn hyderus y bydd cefnogwyr Cymru yn ddiogel yn Baku yng nghanol pandemig Covid-19.

Mae tua 2,000 o gefnogwyr Cymru yn gwneud y daith 3,000 milltir ar gyfer y gemau yn erbyn y Swistir a Thwrci.

Mae’r cefnogwyr wedi teithio yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru, gydag Azerbaijan ar y ‘rhestr oren’, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobol archebu profion Covid-19 ar yr ail a’r wythfed diwrnod ar ôl iddyn nhw ddychwelyd.

Bydd y cefnogwyr hefyd yn gorfod hunanynysu am ddeng niwrnod.

Fodd bynnag, mae cyfraddau heintio is yn Azerbaijan wedi arwain at gyfyngiadau’n cael eu llacio, gyda thafarndai a bwytai wedi’u hailagor fis diwethaf.

Dyw pobol yno heb orfod gwisgo mygydau ers Mehefin 1 chwaith.

“Dydyn ni ddim yn ôl i’r arfer eto, ond rydym yn agos iawn,” meddai Elkhan Mammadov, is-lywydd gweithredol ac ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Azerbaijan.

“Mae’r bwytai, tafarndai a theithiau twristiaid ar agor nawr a fydd dim angen gwisgo mwgwd yn y stadiwm.

“Rydym yn hyderus y bydd y cefnogwyr yn ddiogel ac rydym wedi lleihau’r risg drwy beidio â chael parthau cefnogwyr.

“Ar ôl y flwyddyn ddiwethaf, mae pêl-droed yn cynnig gobaith ychwanegol i’r 11 dinas i ddychwelyd i normal.”

“Siomedig” i fod ar restr ambr Llywodraeth Cymru

Dywedodd Elkhan Mammadov fod Cymdeithas Bêl-droed Azerbaijan yn anhapus fod y wlad yn aros ar restr oren Llywodraeth Cymru.

“Wrth gwrs, roedden ni’n siomedig gyda’r newyddion yma,” meddai.

“Roedd yn gyfle gwych i ddod â phositifrwydd ar ôl 15 mis o gyfyngiadau symud mewn rhai rhannau o Ewrop, gan gynnwys Azerbaijan.

“Ond nid yw’n ymwneud â Baku yn unig, mae hefyd yn ymwneud â Rhufain a dinasoedd eraill sy’n cynnal gemau.”

Pobol leol yn “cefnogi Cymru”

Mae disgwyl torf o ryw 10,000 ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn (Mehefin 12).

Bydd yn cynnwys 750 o gefnogwyr y Swistir gyda’r mwyafrif yn bobol leol.

Ac mae Elkhan Mammadov yn disgwyl y bydd y mwyafrif o bobol Azerbaijan yn cefnogi Cymru.

“Dywedais wrth gymdeithasau pêl-droed Cymru a’r Swistir mai pwy bynnag sydd fwyaf gweithgar ar y cyfryngau cymdeithasol, o ran chwaraewyr, fydd y bobol leol yn eu cefnogi,” meddai.

“Ond doeddwn i ddim eisiau dweud wrth y Swistir fod gan Gymru Gareth Bale.

“Mae’n elfen bwysig i gael cefnogaeth y bobol leol.”

Mae disgwyl dros 30,000 o gefnogwyr ar gyfer ail gêm Cymru yn erbyn Twrci ddydd Mercher nesaf (Mehefin 16).

Mae tua 6,000 o gefnogwyr i fod i gyrraedd o Dwrci – gwlad sydd â chysylltiadau diwylliannol ac economaidd agos ag Azerbaijan – ar gyfer y gêm, gyda Chymru’n gorffen eu gemau Grŵp A yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar Fehefin 20.

Gwrth-hiliaeth

Bydd chwaraewyr Cymru yn anfon neges wrth-hiliaeth cyn y tair gêm drwy benlinio cyn y gic gyntaf.

“Bydd y cefnogwyr lleol yn Azerbaijan yn dangos eu parch oherwydd ein bod yn sefyll gyda’n gilydd ar gyfer yr ymgyrch gwrth-hiliaeth a’r ymgyrch parch,” meddai Elkhan Mammadov wedyn.

“Rydym bob amser yn cyflwyno ein hundod i ymgyrch UEFA, boed hynny yn dweud ‘Na wrth Hiliaeth’ neu’r ymgyrch ‘Parch’.”