Mae adroddiadau’n awgrymu bod Abertawe ar fin denu’r ymosodwr Kyle Joseph o Wigan.

Sgoriodd yr Albanwr bum gôl mewn 20 o gemau – gan ddechrau 13 ohonyn nhw – ar ôl ennill ei le yn nhîm cyntaf Wigan yn ystod tymor 2020-21.

Daw cytundeb y gŵr 19 oed gyda’r clwb – sy’n chwarae yn yr Adran Gyntaf (League One) – i ben haf yma, ond bydd Abertawe’n talu ffi iawndal am ei fod o dan 24 oed.

Mae’r clwb yn awyddus i gryfhau eu hopsiynau ymosodol yr haf hwn ar ôl mynd drwy lawer o’r tymor diwethaf heb ymosodwr naturiol ymlaen yn eu carfan.

Bydd Andre Ayew yn gadael Abertawe ar drosglwyddiad am ddim pan ddaw ei gytundeb i ben y mis hwn.

Fe oedd prif sgoriwr tîm Steve Cooper dros y ddau dymor diwethaf.

Mae’n debyg fod gan Abertawe ddiddordeb yn yr ymosodwr Thomas Henry a’r chwaraewr canol cae Liam Walsh hefyd.

Mae’r Ffrancwr Thomas Henry yn chwarae i OH Leuven yng Ngwlad Belg, a sgoriodd e 21 o goliau mewn 31 o gemau y tymor diwethaf.

Fodd bynnag, dydy hi ddim yn glir a fyddai Abertawe yn gallu ei fforddio.

Mae Liam Walsh, ar y llaw arall, ar gael am ddim ar ôl iddo gael ei ryddhau gan Bristol City.

Andre Ayew

Andre Ayew yn gadael Abertawe ddiwedd y mis

Roedd yno obaith byddai’n arwyddo cytundeb newydd pe bai Abertawe wedi ennill dyrchafiad