Mae Aaron Ramsey wedi tawelu meddyliau’r cefnogwyr gan ddweud mai penderfyniad bwriadol oedd methu sesiwn hyfforddi ychydig dros 48 awr cyn gêm agoriadol Cymru yn Ewro 2020 yn erbyn y Swistir.

Mae record ffitrwydd Ramsey wedi bod yn destun pryder i Gymru, wrth i seren Juventus ymddangos mewn dim ond 19 o’r 44 gêm maen nhw wedi’u chwarae ers Ewro 2016.

Fodd bynnag, mae’n mynnu na ddylai cefnogwyr Cymru boeni.

“Rhan o’r cynllun”

“Roedd e’n rhan o’r cynllun ’mod i’n aros oddi ar fy nhraed,” meddai Ramsey.

“Roedd yn sesiwn ysgafn iawn i’r bechgyn. Dwi i’n dda iawn ac yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn.”

Mae cyfnod Ramsey gyda Juventus wedi bod yn un llawn anafiadau, ac mae bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar ei ffitrwydd ei hun.

“Mae wedi bod yn gyfnod eithaf heriol dros yr ychydig dymhorau diwethaf, ond mae gen i fy nhîm fy hun o ’nghwmpas sy’n canolbwyntio ar fy nghael yn y cyflwr gorau posibl,” meddai Ramsey.

“Mae pêl-droed yn gamp tîm ac yn bennaf am y tîm. Ond efallai fod angen mwy o sylw ar rai chwaraewyr, a dw i wedi cymryd y mater yn fy nwylo fy hun.

“Mae gen i’r bobl iawn o ’nghwmpas i feddwl am y cynllun gorau posib i gael fy hun yn ôl i fan lle dw i’n teimlo’n dda ac yn hyderus eto.

“Mae staff a thîm meddygol Cymru wedi bod yn wych, yn agored i drafodaethau.

“Mae’n bwysig bod ar yr un dudalen. Ond dw i’n adnabod llawer o staff Cymru ers amser maith, yn ôl o fy nyddiau gydag Arsenal, ac maen nhw’n fy neall i.

“Maen nhw’n adnabod fy nghorff, beth sydd ei angen arna’i, a gobeithio y gallwn ni i gyd chwarae rhan i fy nghael yn y lle gorau.”

‘Rhif naw ffug’

Daeth Ramsey ymlaen fel eilydd ar ôl awr yn y golled 3-0 i Ffrainc yr wythnos ddiwethaf.

Yna cafodd awr yn y gêm baratoadol olaf yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, a orffennodd yn ddi-sgôr.

Yn y gêm honno, cafodd ei ddefnyddio fel ‘rhif naw ffug’ yn hytrach na chwarae yn ei safle rhif 10 arferol.

“Roedd yn rôl newydd i mi,” meddai Ramsey am y rôl ‘naw ffug’.

“Ond mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno i mi geisio ymgyfarwyddo ag ef.

“Mae’r man cychwyn yn llawer uwch i fyny’r cae, ac rydych chi’n chwarae gyda’ch cefn i’r gôl ychydig yn fwy.

“Rydych chi’n dibynnu ar chwaraewyr eraill i wneud y rhediadau hynny i mewn y tu ôl wrth i fi ddod ychydig yn ddyfnach.

“Mae’n wahanol iawn. Ond mae llawer o dimau yn yr Uwchgynghrair wedi cael llawer o lwyddiant yn ei wneud, ac os caiff ei wneud yn gywir, gall fod yn effeithiol.

“Dydw i ddim yn siŵr pa lwybr ddilynwn ni, ond mae’n rhywbeth rydyn ni wedi’i roi ar waith ac mae’n opsiwn i ni.”

Ffwdan am wallt Foden

Cafodd Ramsey ei gydnabod am ei berfformiadau rhagorol yn Euro 2016 drwy gael ei enwi yn nhîm swyddogol y twrnament.

Bryd hynny, roedd ganddo lond pen o wallt melyn – ond y tro hwn mae Phil Foden, seren Lloegr, wedi dwyn y steil hwnnw.

Pan ofynnwyd iddo am steil gwallt newydd Foden, dywedodd Ramsey: “I’r chwaraewyr sydd wedi ei wneud (lliwio eu gwallt), whatever floats their boat os hoffech chi!

“Dyw hi ddim wedi bod mor hawdd y tro hwn oherwydd cyfyngiadau Covid i gael rhywun mewn i’w liwio!

“Efallai y bydden i wedi gwneud heb Covid. Ond ro’dd pethau ychydig yn anoddach nag yr oedd rai blynyddoedd yn ôl.

“Byddai’n rhaid i chi gael yr hairdresser mewn i gael profion [Covid] – doedd e ddim werth y risg.”