Doedd ymdrechion yr Awstraliad Marnus Labuschagne, wrth iddo fe sgorio 93 heb fod allan yn ei gêm ugain pelawd gyntaf erioed yng Nghymru, ddim yn ddigon i achub Morgannwg wrth iddyn nhw golli o bedwar rhediad yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.
Roedden nhw’n cwrso 180 mewn amodau tywyll gan nad oedd llifoleuadau Gerddi Sophia’n gweithio, a hynny wedi arwain at ddechrau’r gêm awr yn gynt na’r disgwyl.
Daeth batiad Labuschagne oddi ar 56 o belenni.
Cyfnod clatsio da i fowlwyr Morgannwg
Er i’r ymwelwyr alw’n gywir a dewis batio, Morgannwg ddechreuodd y gêm gryfaf, gyda’r troellwyr Prem Sisodiya ac Andrew Salter yn agor y bowlio.
Cafodd Miles Hammond ei fowlio gan Salter yn yr ail belawd cyn i’r Iseldirwr Timm van der Gugten ddal Ian Cockbain yn y pumed pelawd oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, a’r Saeson y 34 am ddwy ar ddiwedd y cyfnod clatsio gyda van der Gugten heb ildio’r un rhediad yn y chweched pelawd.
Ond datgymalodd Smith ei fys wrth fowlio’r seithfed pelawd.
Roedd Morgannwg wedi bod yn bowlio’n gywir cyn y nawfed pelawd gan Salter, wrth iddo fe ildio 19 rhediad, gan gynnwys dwy ergyd am chwech ac un am bedwar wrth i Glenn Phillips o Seland Newydd gosbi bowlio llac.
Roedden nhw’n 71 am dair hanner ffordd drwy’r batiad ar ôl i Dan Douthwaite waredu Chris Dent wrth i Kiran Carlson ei ddal yn isel ar yr ochr agored oddi ar ergyd sgwâr.
Cafodd Sisodiya ei gosbi yn y belawd ganlynol hefyd wrth i Swydd Gaerloyw ddechrau sefydlogi’r batiad ryw ychydig a chyrraedd 104 am dair ar ôl tair pelawd ar ddeg.
Daeth un o eiliadau gorau’r noson yn y bedwaredd pelawd ar ddeg pan lwyddodd Nick Selman i jyglo’r bêl ger y ffin a dal ei afael arni i waredu Phillips am 44 oddi ar fowlio’r troellwr coes Labuschagne, a’r ymwelwyr erbyn hynny’n 109 am bedair.
Cwympodd pumed wiced y Saeson ar 113 pan gafodd y capten Jack Taylor ei ddal gan Labuschagne oddi ar fowlio Dan Douthwaite.
Tarodd Benny Howell 30 mewn dim o dro yn y pum pelawd olaf wrth i ddechrau da Morgannwg fynd yn ofer wrth ildio 64 rhediad – ond daeth batiad Howell i ben wrth i Labuschagne ei ddal wrth dynnu’r bêl unwaith yn ormod.
Tarod Graeme van Buuren ddau chwech oddi ar van der Gugten yn y belawd olaf i osod nod digon anodd yn y pen draw.
Cwrso’n arwrol
Dechreuodd Morgannwg eu batiad gan wybod fod angen naw rhediad y belawd arnyn nhw, ond digon hamddenol oedd y pelawdau agoriadol.
Cafodd David Lloyd ei fowlio gan Josh Shaw yn y bedwaredd pelawd ar ôl taro 28 oddi ar 15 o belenni, a chafodd Nick Selman ei ddal gan Chris Dent wrth ergydio i’r awyr oddi ar fowlio Ryan Higgins i adael Morgannwg yn 39 am ddwy.
Wnaeth Colin Ingram ddim para’n hir yn ei gêm gyntaf ers dros dymor, wrth i’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica sgorio un cyn cael ei fowlio gan Shaw, wrth i Forgannwg gyrraedd 51 am dair ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Pelawdau digon tawel gawson nhw yng ngweddill hanner cynta’r batiad wedyn gan gyrraedd 80 am dair erbyn hanner ffordd, gan adael deg y belawd o hynny ymlaen.
Un wiced ar ôl y llall
Ond wrth i’r cwrso ddechrau go iawn, dechreuodd Morgannwg golli eu ffordd pan gafodd y capten Chris Cooke ei ddal gan Hammond oddi ar fowlio Tom Smith am 26 yn y drydedd pelawd ar ddeg.
Roedden nhw’n 99 am bedair erbyn hynny, ac fe gyrhaeddodd Labuschagne ei hanner canred oddi ar 36 o belenni cyn colli Kiran Carlson ben draw’r llain wrth i hwnnw ergydio’n sgwâr at Dent oddi ar fowlio Howell i adael Morgannwg yn 126 am bump.
Tarodd Higgins goes Douthwaite o flaen y wiced yn y belawd ganlynol ond un rhediad oedd ynddi ar ôl 17 pelawd yn ôl y gyfradd sgorio.
43 rhediad oedd eu hangen oddi ar 18 pelen, felly, ond cafodd Salter ei redeg allan gan Hammond.
Cafodd Ruaidhri Smith ei fowlio gan David Payne heb sgorio a Timm van der Gugten ei ddal gan Shaw oddi ar ymyl ucha’r bat i adael Morgannwg yn 144 am naw.
Roedden nhw’n 161 am naw erbyn diwedd y belawd olaf ond un ond yn dal yn y gêm diolch i Labuschagne a’i fatio amyneddgar.
19 o rediadau oedd eu hangen, felly, ac fe darodd Labuschagne ddau bedwar a chwech i adael Morgannwg o fewn dwy ergyd i’r ffin i’r fuddugoliaeth ond gyda Morgannwg wedi colli tair wiced am dri rhediad, chafodd e mo’r gefnogaeth i groesi’r llinell yn y pen draw.
‘Chwerwfelys’
“Dw i’n dal i feddwl o le gallwn i fod wedi cael y rhediadau ychwanegol hynny neu a wnes i ei gadael hi ychydig yn rhy hwyr,” meddai Marnus Labuschagne.
“Mae’n destun pleser i fi gael rhediadau, ond yn destun siom nad o’n i wedi gallu ein cael ni dros y llinell.
“Mae’n chwerwfelys oherwydd, er ei fod yn ddechreuad braf i fy hyder y galla i ei gwneud hi yn y fformat yma, i fi, ennill gemau i fy nhîm sy’n bwysig, boed i Awstralia neu i Forgannwg.
“Ro’n i bob amser yn teimlo fel pe bawn i’n gallu cael 50.
“Roedd hi’n eitha’ tywyll yn y diwedd ond oherwydd fy mod i i mewn, ro’n i’n gallu gweld y bêl ychydig yn well.
“Roedd hi’n braf cael y cefnogwyr yn ôl felly byddai wedi bod yn drueni gadael [y cae oherwydd y tywyllwch] ar y diwedd.”