Uchafswm o 1,000 o bobol yn unig fydd yn cael gwylio dwy gêm ugain pelawd gyntaf Morgannwg yr wythnos hon.
Maen nhw’n croesawu Swydd Gaerloyw i Erddi Sophia heno (nos Iau, Mehefin 10, 5.30yh), cyn herio Essex ddydd Sul (Mehefin 13, 2.30yp).
Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i 2,892 gael mynediad ond mae Morgannwg yn dweud na chawson nhw ddigon o amser i baratoi ar gyfer y ddwy gêm gyntaf nac i ddadansoddi’r diwrnod prawf gawson nhw yn ystod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yr wythnos ddiwethaf.
Ond maen nhw’n gobeithio cynyddu’r capasiti ar gyfer y gemau sydd i ddod wedyn.
Ar gyfer y ddwy gêm gyntaf, bydd rhaid i gefnogwyr gadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd, ac mae’r rhai sy’n gymwys i wneud cais am docynnau eisoes wedi derbyn pecyn yn egluro’r protocolau.
Bydd unrhyw un sydd eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer y gemau ugain pelawd y tymor hwn ond sy’n methu cael mynediad yn cael ad-daliad “maes o law”, yn ôl y clwb.
A bydd y gêm heno bellach yn dechrau am 5.30yh yn dilyn trafferthion â’r llifoleuadau sy’n golygu y bydd yn rhaid cynnal y gêm cyn iddi dywyllu.
Gemau’r gorffennol
Mae Morgannwg wedi cyfarfod â Swydd Gaerloyw 30 o weithiau mewn gemau ugain pelawd, ac wedi ennill 14 ohonyn nhw, colli 13 ac un gêm gyfartal a dwy arall heb eu gorffen o ganlyniad i’r tywydd.
Mae Morgannwg wedi eu curo nhw wyth gwaith yng Ngerddi Sophia ac wedi colli pump o weithiau, a dydy’r ymwelwyr ddim wedi ennill yn y brifddinas ers 2017, pan gyrhaeddodd Morgannwg Ddiwrnod y Ffeinals.
Y Gwyddel Andy Balbirnie oedd seren yr ornest y llynedd, wrth iddo fe daro 99 gyda Morgannwg yn sgorio 201 am chwech – eu sgôr gorau erioed yn erbyn Swydd Gaerloyw a’u pumed sgôr gorau mewn gemau ugain pelawd.
Yn yr ornest ym Mryste yn 2015, tarodd y capten Jacques Rudolph 101 heb fod allan a Michael Klinger, capten y Saeson, 104 – y ddau sgôr gorau mewn gemau ugain pelawd rhwng y ddwy sir.
Ryan Watkins sydd â’r ffigurau bowlio gorau erioed i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw, ar ôl cipio pum wiced am 16 yng Nghaerdydd yn 2009, tra mai Benny Howell sydd â’r record i’r Saeson, gyda phump am 18 yn Cheltenham yn 2019.
Cerrig milltir
Mae cerrig milltir o fewn cyrraedd sawl un o chwaraewyr Morgannwg.
Mae Colin Ingram 58 rhediad i ffwrdd o 7,000 o rediadau mewn gemau ugain pelawd yn ei yrfa – dim ond 23 batiwr arall yn y byd sydd wedi cyrraedd y nod.
Mae angen 120 o rediadau ar Chris Cooke i gyrraedd 2,000 o rediadau mewn gemau ugain pelawd i’r sir – dim ond Colin Ingram sydd wedi sgorio mwy (2,031).
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, D Douthwaite, C Ingram, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, A Salter, N Selman, P Sisodiya, R Smith, C Taylor, TVDG, J Weighell
Carfan Swydd Gaerloyw: M Hammond, C Dent, I Cockbain, G Phillips, J Taylor (capten), R Higgins, B Howell, G van Buuren, T Smith, D Payne, M Taylor, G Hankins, J Shaw, G Scott