Ar drothwy’r Ewros, y sylwebyddion Nic Parry a Dylan Ebenezer sy’n pwyso a mesur gobeithion Cymru o ddianc o’u grŵp…

Roedd y ddwy gêm baratoadol cyn yr Ewros “yn werth eu cael”, yn ôl y sylwebydd Nic Parry, a hynny er mwyn rhoi munudau ar y cae i chwaraewyr allweddol, i gael “y profiad annisgwyl o chwarae efo deg dyn” yn erbyn Ffrainc, ac er mwyn i’r golwr Danny Ward gael wynebu cic o’r smotyn.