Am ran helaeth o’r flwyddyn a hanner echrydus ddiwethaf dw i wedi bod mewn grŵp whatsapp reit brysur. I’r fath raddau bo’ fy ngwraig wedi edrych draw arna’ i o bryd i’w gilydd a gofyn yn daer ‘ond beth ydech chi’n siarad am o hyd?’

“Ffwtbol yn benna’” yw f’ateb “…wel, ffwtbol bron yn ecsgliwsif a bod yn onest.”