Portread o Niki Jain Jones

Yn byw yng Ngwynedd ac yn frwd o blaid annibyniaeth i Gymru, mae Niki Jain Jones yn gweithio bob dydd i ddod â goleuni i fywydau eraill.

Mae’r fam 32 oed wedi profi bywyd yn llawn heriau tywyll, ac mae wedi siarad yn agored sawl tro â’r Wasg am ei brwydrau â hiliaeth a thrafferthion iechyd meddwl.