Mae Meilyr Jones yn fyfyriwr PhD o Brifysgol Fetropolitaidd Caerdydd, yn yr adran gwyddorau chwaraeon, yn dadlau bod y defnydd o’r dyfarnwr fideo VAR yn niweidio pêl-droed, yn hytrach na’i gwneud yn fwy cyfiawn a theg.

Yn ôl FIFA – y Gymdeithas Bêl-droed Ryngwladol – mae pedwar rheswm tros ddefnyddio VAR – y dyfarnwr fideo cynorthwyol sy’n defnyddio lluniau o bell i astudio digwyddiadau dadleuol yn ystod gêm:

1) I wirio a oes problem gyda gôl sydd wedi cael ei sgorio.

2) I sicrhau na wnaed camgymeriad wrth roi, neu beidio â rhoi cic o’r smotyn.

3) I sicrhau na wnaed camgymeriad wrth roi, neu beidio ârhoi cerdyn coch.

4) Gydag achosion o ‘mistaken identity’ lle nad yw’r dyfarnwr yn sicr pa chwaraewyr ddylai gael eu cosbi.

Bwriad y VAR ydy cywiro camgymeriadau clir ac amlwg yn unig a thynnu sylw at ddigwyddiadau difrifol sydd wedi eu colli.

VAR – y broses

Mae VAR yn gweithio mewn dau gam:

Cam un ydi’r dyfarnwr yn hysbysu’r VAR, neu fod y  VAR yn argymell y dylai penderfyniad gael ei adolygu, hynny yw, os oes amheuaeth mewn penderfyniad. Nid un person ydy’r VAR, ond yn hytrach grŵp bach o ddyfarnwyr cymwysedig.

Cam dau ydy’r VAR, sydd y tu allan i’r stadiwm, yn adolygu’r fideo ac yn dweud wrth y dyfarnwr ar y cae trwy glustffonau beth yw ei farn am y digwyddiad.

Dylai’r ddau gam gymryd rhwng 30 a 40 eiliad. Mae teledu yn y stadiwm i’r dyfarnwr gael edrych ar y digwyddiad ei hun os oes angen, a gan y dyfarnwr ar y cae y bydd y penderfyniad terfynol. Dydy’r fideo ddim yn cael ei ddangos ar sgrin fawr i’r gynulleidfa fel sy’n cael ei weld gyda defnydd technoleg mewn rhai chwaraeon fel rygbi.

Pwrpas VAR

Prif bwrpas VAR a thechnoleg debyg o fewn chwaraeon ydy helpu dyfarnwyr i sicrhau bod y gêm yn cael ei chwarae’n gyfiawn, a sicrhau canlyniad teg. Mae tystiolaeth yn dangos fod 96 % o benderfyniadau dyfarnwyr yn gywir  ar hyn o brydond, gyda chyflwyno VAR, gall y ffigwr godi i 98% (Jacob, 2018). Mae VAR felly yn cynyddu’r siawns bod y canlyniad yn teg a chywir. Mae hynny’n hanfodol oherwydd,  yn ôl Jones a Hennessy (2017, t.72):

y ffactor mwyaf dylanwadol a rhwystredig yn aml yw camgymeriadau dyfarnwyr wrth geisio cymhwyso’r rheolau. Gall penderfyniad anghywir gan ddyfarnwr i gosbi’r naill dîm neu’r llall arwain yn uniongyrchol at fuddugoliaeth neu golled anhaeddiannol’.

Yn ôl Loland (2013) mae ‘ennill’ mewn camp yn ddibynnol ar ddefnyddio dim ond y modd a ddiffinnir yn ei reolau a nododd Morgan (1987) nad oes modd gwahanu nodau a modd. Ni allwn ennill oni bai ein bod yn cystadlu yn unol â’r rheolau cyfansoddiadol.

Mae dehongliad cyffredin o ‘ennill’ yn anghenraid i gystadlaethau ystyrlon fod yn bosibl o gwbl. Yng nghyd-destun chwaraeon, mae cyfiawnder yn ymwneud yn gyffredinol â dyrannu anrhydeddau a gwobrau yn gywir ac yn gyfiawn, o ran pwy ddylai ennill gêm, cynghrair, neu dlws. Hynny yw, mae cyfiawnder yn gofyn i’r unigolyn neu’r tîm cywir ennill am y rheswm iawn (Iorwerth, Tomkins a Riley, 2018).

Mae gweithredu ardderchog, dangos sgiliau arbennig, y gallu i chwarae i botensial gorau i gyd yn cael eu derbyn yn elfennau cyffredin o gemau. Ond nid yw chwarae’n dda, hyd yn oed os yw’n arwain at fuddugoliaeth, yn ddigon. Rhaid i’r cystadlu fod yn deg (Rawls, 1971).

Os ydym yn ennill a chwarae’n dda wrth osgoi’r rheolau, mae’n ein hatal rhag chwarae yn ôl y rheolau; mewn gwirionedd, nid  ydy’r gêm yna yn cael ei “chwarae” o gwbl. Os ydym am ddileu neu o leiaf leihau canlyniadau annerbyniol chwaraeon, rhaid i gyd-destun y rheolau a’r amodau eraill ar gyfer y gweithgareddau hyn fodloni egwyddorion cyfiawnder a thegwch.

VAR – y broblem

Mae’r rhan fwyaf o gefnogwyr eisiau gweld tegwch a chyfiawnder o fewn y gêm. Does dim un cefnogwr eisiau colli gêm oherwydd camgymeriad gan y dyfarnwr. Fodd bynnag, mae ceisio sicrhau gêm ‘berffaith’ yng nghyd-destun tegwch a chyfiawnder yn broblematig.

Y broblem sydd wedi peri y mwyaf o bryder i bawb sy’n gysylltiedig â phêl-droed, o’r chwaraewyr i’r cefnogwyr, ydy’r gred fod VAR yn tanseilio’r emosiwn sy’n gysylltiedig â’r gêm. Mae’r Koninklijke Nederlandse Voetbalbond (KNVB) (Cymdeithas Bêl-droed yr Iseldiroedd), dyfeiswyr  VAR, yn datgan yn eu llawlyfr nad nod yr arbrawf yw cywirdeb 100% ar gyfer pob penderfyniad gan nad oes awydd i ddinistrio llif ac emosiynau hanfodol pêl-droed. Fodd bynnag, mae digon o dystiolaeth wrth ddefnyddio VAR mewn gemau fod hyn yn digwydd, a gall hyn fod yn hynod o niweidiol i’r gamp.

Mae Mumford (2012) yn disgrifo’r holl emosiynau y gall rhywun eu profi mewn gêm. Gall cefnogwyr deimlo gobaith, tensiwn, sypreis, rhyfeddod, rhyddhad, rhwystredigaeth, anobaith a dicter. Ar ddiwedd gêm fawr, gall cefnogwyr fod wedi profi pob un o’r emosiynau yma. Dydy’r profiad a geir wrth wylio chwaraeon ddim yn un diriaethol y gallwn ei gario adref gyda ni o’r stadiwm ond, yn hytrach, mae cefnogwyr yn talu am y profiad o fod yn y gêm ac amallu profi’r holl emosiynau yn uniongyrchol, beth bynnag ydynt.

Un rheswm pam fod emosiynau yn cael eu dwysau wrth wylio chwaraeon ydy oherwydd eu bod yn cael eu rhannu yn y stadiwm gyda miloedd o gefnogwyr eraill; maent yn profi llawenydd ac anobaith fel un. Mae Mumford yn gorffen ei bennod drwy esbonio y gall pobl ddadlau fod emosiwn yn rhan o natur chwaraeon ac felly ni ddylem danseilio pwysigrwydd emosiwn wrth wylio chwaraeon.

VAR yn lladd emosiwn

Dyma lle mae problem gyda VAR, wrth i benderfyniadau gael eu gwneud rai munudau ar ôl y weithred, er enghraifft, yn ystod y broses o wirio a oes camsefyll cyn i gôl gael ei sgorio, ni all cefnogwyr ddangos eu hemosiwn. Ni allant ryddhau emosiwn megis sypreis, rhyddhad a rhyfeddod ar yr eiliad y mae’r tîm yn sgorio bellach, gan fod siawns y bydd y penderfyniad yn cael ei newid.

Erbyn hyn, mae’n rhaid iddynt aros tan bod y dyfarnwr wedi gwirio’r penderfyniad, a hyd yn oed os ydi’r penderfyniad gwreiddiol yn sefyll, ni allant ryddhau eu hemosiynau yn yr un modd. Mae’r sypreis drosodd; er eu bod yn hapus, ni allant ymgolli yn yr ecstasi. Ni ydynt felly yn cael y profiad emosiynol y maent yn chwilio amdano ac y maent yn barod i wario arian i’w gael.

Mae nifer o newyddiadurwyr, cefnogwyr, chwaraewyr a rheolwyr o’r farn fod VAR yn difetha emosiwn o fewn gêm bêl-droed. Dywedodd y newyddiadurwr Ford (2018);

‘’Just the knowledge that a goal, penalty or red card isn’t actually final until it’s been double checked by a video referee acts as a huge break on the emotions – both euphoric and despairing – that make live football what it is.’’

Ategodd rheolwr PSG, Mauricio Pochettino hyn drwy ddweud;

“I am not sure that the system [VAR] is going to help. We love the game that we know. Football is about emotion, we want to keep the emotion. The fans are not so happy about what they have seen today…. We need to respect our fans and the fans are not happy. You could kill the emotion, and that is why you pay the ticket, when the conditions are so bad…. We are going to kill emotion. Rather than talking about football we talk about the machine.’’

Os ydy emosiwn yn rhan o natur chwaraeon, fel y mae Mumford yn datgan, gall ei danseilio gael effaith hynod negyddol a niweidiol ar ddyfodol pêl-droed. Os nad ydynt yn gallu cael y rhyddhad emosiynol mewn gêm bêl-droed, mi fyddant yn chwilio amdano mewn mannau eraill ac yn stopio mynychu gemau.

Rydym yn clywed pobl yn gofyn y cwestiwn ym aml, beth yw pêl-droed, neu chwaraeon yn gyffredinol, heb gefnogwyr? Gall cyflwyno VAR ddod â’r cwestiwn yma yn realiti, a bod yn hynod niweidiol i’r gamp yn yr hir dymor os ydy cefnogwyr yn colli diddordeb a phwrpas mynychu gan fod yr emosiwn wedi’i golli. Yn ystod y cyfnod clo diweddar, rydym wedi cael blas o bêl-droed heb gefnogwyr, er fod y newid yma wedi bod yn angenrheidiol (oherwydd y pandemig) mae’n saff dweud ei fod wedi gwneud i bawb sydd yn ymwneud â phêl-droed sylweddoli pwysigrydd y cefnogwyr.

Rydw i a miliynau eraill ar draws y byd yn caru pêl-droed yn fwy na dim byd arall, ac mae VAR yn wirioneddol yn peri pryder i mi am ddyfodol y gêm a’i gallu i greu profiadau a theimladau na all unrhyw beth arall ei greu. Gobeithiaf fod cyrff llywodraethu yn ail edrych ar y dechnoleg a’i haddasu neu ei diddymu yn gyfan gwbl i sicrhau dyfodol y gêm yr ydym yn ei charu.

  • Ewch i wefan Gwerddon – www.gwerddon.cymru – i bori drwy’r erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007

Cyfeirnodau

FIFA. (2019). Video assistant referees (VAR). [online] Available at: https://football-technology.fifa.com/en/media-tiles/video-assistant-referee-var/ [Accessed 14 Mar. 2019].

Ford, M. (2018). Opinion: The decision is irrelevant; VAR sucks the emotion out of football | DW | 17.02.2018. [online] DW.COM. Available at:

https://www.dw.com/en/opinion-the-decision-is-irrelevant-var-sucks-the-emotion-out-of-football/a-42631617 [Accessed 14 Mar. 2019].

Iorwerth, H., Tomkins, P. and Riley, G. (2018). Financial Doping in the English Premier League. Sport, Ethics and Philosophy12(3), pp.272-291.

Jacob, G. (2018). Your essential guide to the Video Assistant Referee, London (UK).

Jones, C. and Hennessy, N. (2017). Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb.

Kilpatrick, D. (2018). Pochettino: VAR ‘kills’ emotion in football. [online] ESPN.com. Available at: http://www.espn.com/soccer/tottenham-hotspur/story/3401537/var-system-is-killing-the-emotion-of-football-mauricio-pochettino [Accessed 14 Mar. 2019].

Knvb.nl. (2017). Implementation handbook for competitions conducting live experiments with video assistance for clear errors in match-changing situations. [online] Available at: https://www.knvb.nl/downloads/bestand/9844/var-handbook-v8_final [Accessed 14 Mar. 2019].

Loland, S. (2013). Fair play in sport: A moral norm system. Routledge.

Morgan, W. J. (1987). The logical incompatibility thesis and rules: A reconsideration of formalism as an account of games. Journal of the Philosophy of Sport14(1), 1-20.

Mumford, S. (2013). Watching sport: Aesthetics, ethics and emotion. Routledge

Rawls, J. (1971). A Theory of Justice. Cambridge/Massachussetts