Gan Eirini Sanoudaki gyda Maryam Awawdeh, Jazmine Beauchamp, Gareth Caulfield, Bethan Collins, Sarah Cooper, Rebecca Day, Laura Maguire, Athanasia Papastergiou, Felicity Parry, Rebecca Ward, Jago Williams, a Meinir Williams.

Mae Eirini Sanoudaki yn Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arwain tîm o ymchwilwyr yn y Labordy Dwyieithrwydd Plant. Yn yr erthygl hon, mae’r awduron yn trafod niwroamrywiaeth a dwyieithrwydd a’r ymchwil cyffrous sy’n digwydd yn rhyngwladol, ac yng Nghymru hefyd.


Mae newid cyffrous wedi bod yn digwydd ledled y byd, ac yng Nghymru hefyd, dros y degawd diwethaf: camau pwysig ym meysydd niwroamrywiaeth a dwyieithrwydd.

Niwroamrywiaeth (Neurodiversity): term eithaf newydd sy’n cyfeirio at ystod eangamrywiaeth naturiol pobl. Mae pobl yn gweld y byd mewn sawl ffordd wahanol: does dim ffordd ‘gywir’ o feddwl ac ymddwyn.  Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am awtistiaeth, er enghraifft, yn newid: nid diffyg gallu ydyw, ond niwroddargyfeiredd (neurodivergence) gwerthfawr.

Beth am ddwyieithrwydd? (neu amlieithrwydd, sef defnydd o fwy nag un iaith). Mae dwyieithrwydd yn gyfarwydd i ni yng Nghymru, gyda’r Saesneg a’r Gymraeg, yn ogystal â llawer o ieithoedd lleiafrifol eraill, yn cyfrannu at ein cyfoeth ieithyddol a diwylliannol. Ond mae rhywbeth wedi bod yn newid yn y  maes hwn yn ddiweddar hefyd. Mae rhai arbenigwyr yn ystyried dwyieithrwydd yn sbectrwm o brofiadau ieithyddol . Dydy siarad dwy iaith, neu fwy, ddim yn ddu a gwyn: mae hi’n bwysig ystyried a gwerthfawrogi ystod y sgiliau ieithyddol.

Ddeng mlynedd yn ôl roedd diffyg gwybodaeth am iaith plant niwroamrywiol dwyieithog yn y wlad – doedd dim labordy ymchwil yn ei astudio, er enghraifft. Oherwydd hyn, yng Nghymru, fel yng ngweddill y byd, roedd gweithwyr proffesiynol a rhieni gyda phlant niwroddargyfeiriol yn poeni bod dysgu dwy iaith (neu fwy) yn mynd i achosi niwed.

Dyma pam gychwynnon ni ymchwil arloesol yn y maes yn Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol Bangor.

Un enghraifft o’r ymchwil arloesol yr ydym wedi ei gyflawni, er mwyn ateb pryderon rhieni, yw prosiect ar y cyd gyda Chymdeithas Syndrom Down y Deyrnas Unedig. Am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig mesurwyd iaith plant dwyieithog sydd â syndrom Down drwy ddefnyddio profion iaith gwahanol yn y ddwy iaith.

Mae’r canfyddiadau yn glir. Does dim diffyg iaith o ganlyniad i ddwyieithrwydd. Perfformiodd plant dwyieithog gyda syndrom Down gystal â phlant uniaith mewn tasgau ieithyddol Saesneg. Ac mae gan blant dwyieithog sgiliau Cymraeg hefyd! Mae hon yn neges gref i rieni, ac eraill sy’n poeni am hyn: dydy siarad dwy iaith ddim yn anfantais i’r plant, er gwaethaf pryderon sydd o bosib yn adlewyrchu agweddau hanesyddol tuag at ddwyieithrwydd yn gyffredinol.

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn y labordy wedi bod yn gweithio gyda phobl â diagnosis syndrom Down ac awtistiaeth, gyda syndromau genetig a datblygiadol eraill, megis syndrom Rett, a hefyd plant niwronodweddiadol (neurotypical) ac oedolion gyda dementia. Mae rôl addysg, athrawon a therapyddion iaith mewn creu a chefnogi plant dwyieithog yn cael ei ystyried hefyd.

Mae ein gwaith yn darganfod ystod profiadau ieithyddol, ac ystod sgiliau, ac felly sbectrwm niwrolegol ac ieithyddol gwerthfawr. Mi wnaethon ni’r astudiaeth gyntaf yn y byd, er enghraifft, gyda phlant dwyieithog awtistig gyda diagnosis syndrom Down; mae amrywioldeb y profiadau a’r sgiliau yn eang.

Weithiau, mae’r ymchwil yn darganfod buddion dwyieithrwydd gyda sgiliau meddwl: mae tystiolaeth bod ymennydd plant dwyieithog yn fwy hyblyg. Mae’r tasgau sy’n cael eu defnyddio yn y labordy yn cynnwys ailadrodd cymaint o rifau â phosib, symud yn gyflym rhwng gwahanol dasgau, anwybyddu gwybodaeth amherthnasol, a mwy. Mae tasgau fel y rhain yn tueddu i fod yn haws i blant sy’n dysgu dwy iaith, gan mai dyma’r math o dasgau y mae’n rhaid i bobl ddwyieithog fynd i’r afael â nhw.

Yn ddiweddar, gan ddefnyddio dull newydd yn y maes gyda phlant niwronodweddiadol, mi lwyddon ni i ddarganfod bod meddwl plant dwyieithog ar gyfartaledd yn 6.5% fwy effeithlon na sgiliau meddwl plant uniaith!

Mae hi’n bosibl bod buddion meddwl fel y rhain yn bodoli mewn plant dwyieithog niwroddargyfeiriol hefyd. Ond nid dyna’r peth pwysicaf. Mater o gynhwysiant a hawl ydy o.

Mae rhieni plant niwroddargyfeiriol wedi bod yn derbyn cyngor heb ei gefnogi gan dystiolaeth i gadw eu plant at un iaith: mae hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd plant. Petasai rhieni Rhys wedi dilyn cyngor o’r fath, ni fuasai wedi mynd i’r un ysgol a’i chwaer (ysgol ddwyieithog). Ni fuasai wedi gallu cymryd rhan gyflawn yn ei gymuned leol, dim ond oherwydd diagnosis syndrom genetig.

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at greu Cymru ‘wirioneddol ddwyieithog i bawb’.  Dylai’r strategaeth hon gynnwys plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, pobl niwroamrywiol: pawb.

Mae rhieni plant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn wynebu heriau ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd trwy’r amser. Mae ein hymchwil yn cefnogi teuluoedd sy’n ystyried rhoi sbectrwm o brofiadau ieithyddol i’w plant.

Rhaid inni hefyd gynnwys y teuluoedd sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol eraill, y rhai sy’n siarad Pwyleg, Rwmaneg, Pwnjabeg, er enghraifft, ynghyd â’r holl ieithoedd eraill a siaredir yng Nghymru a Lloegr. Er gwaethaf hen ragdybiaethau,  mae ein hymchwil yn dangos nad yw siarad iaith y teulu yn achosi niwed ieithyddol i’r plant. Mae’n gwneud lles i’r teulu, ac mae’r amrywiaeth ieithyddol yn gyfoeth i’r plant a’u cymuned.

Mae ein labordy yn tyfu ac yn ymestyn i brifysgolion eraill Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac yn meithrin cysylltiadau rhyngwladol. Ein prif bwrpas yw ymchwilio i gyfoeth ieithyddol pobl niwroamrywiol ac i godi ymwybyddiaeth am ddwyieithrwydd plant. Mae’r negeseuon yn syml:

  • Dydy dysgu ieithoedd ddim yn achosi niwed
  • Hawliau dynol yw hawliau ieithyddol – i bawb
  • Mwynhewch y cyfoeth dynol – cyfoeth ieithyddol a mwy

Ac mae hyn yn gyffrous ’tydi!