Yn yr erthygl hon mae Rhian Hodges, Cynog Prys ac Elen Bonner o Brifysgol Bangor a Llywela Owain o Uned Iaith a Chraffu Cyngor Gwynedd, yn trafod ymweliad â Gwlad y Basg a’r gwersi y gellid eu dysgu o ran cymdeithaseg a chynllunio iaith.   


Cefndir

Yng Nghymru mae gofid ar hyn o bryd am ddefnydd iaith mewn nifer o sfferau, megis y Gymraeg yn y gymuned, y system addysg, a’r gweithle. Gellir gweld y dirywiad mewn nifer o siaradwyr Cymraeg ôl 16 yng Nghyfrifiad 2021 fel enghraifft o broblem a welir wrth geisio cynnal ac adfer y Gymraeg fel iaith fyw a byrlymus yng Nghymru (Ffigur 1).

Ffigur 1: Canran y bobl tair oed neu’n hyn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl blwydd oed, 2011, a 2021. (ar ôl Llywodraeth Cymru, 2022: 10).

 

Fel mae data’r Cyfrifiad yn awgrymu mae yna ostyngiad yng ngallu ieithyddol unigolion wrth iddynt adael yr ysgol. Mae’r data uchod yn awgrymu felly bod rhwystrau yn nheithiau iaith unigolion, wrth iddynt symud o un cyfnod i’r nesaf yn eu bywydau fel siaradwyr Cymraeg. Yn yr achos hwn, gwelir bod cwymp yng ngallu ieithyddol oedolion ifanc wrth iddynt adael y system addysg a chamu i’r gweithle.  Mae’r gostyngiad a welir yma yn her benodol sydd angen ei datrys gan gynllunwyr ieithyddol Cymru, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru am ddyblu’r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Teithiau Iaith

Yng Nghatalwnia, mae ymchwil diddorol ar y cysyniad o Mudes sydd yn nodi bod trobwyntiau penodol ym mywydau siaradwyr Catalaneg. Er enghraifft, pan mae unigolion yn symud rhwng cyfnodau gwahanol bywyd, gall hyn ddylanwadu ar eu defnydd iaith.  Cyfeirir at yr ysgol, y brifysgol, cwrdd â phartner, cael plentyn a symud i weithio yn y byd gwaith fel cerrig milltir ieithyddol allweddol. Mae’r rhain yn cynnig cyfleoedd pwysig i barhau ar y daith iaith o fod yn siaradwyr Catalaneg, neu i ddod â  theithiau iaith unigolion i ben. Mae ymchwil i deithiau iaith wedi digwydd yng Nghymru lle nodir bod y gweithle yn drobwynt ieithyddol pwysig i nifer o siaradwyr Cymraeg sydd wedi dysgu’r iaith yn yr ysgol (Hodges, 2009, 2021).

Yng Nghymru, un cwestiwn posib i’w holi, felly, yw sut mae unigolion yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau addysg bellach, prifysgolion ac yna yn y byd gwaith a thu hwnt.

Y Daith i Wlad y Basg

Mae dysgu gwersi o sefyllfaoedd ieithoedd lleiafrifol eraill yn bwysig wrth i ni geisio datrys heriau ieithyddol yng Nghymru. I’r perwyl hwn trefnwyd taith i Wlad y Basg o dan nawdd Grant Arloesi y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn dysgu mwy am sefyllfa ieithyddol yr Euskara (Y Fasgeg),  sef iaith sy’n bodoli mewn cyd-destun nid annhebyg i’r Gymraeg yng Nghymru. Yn Nhachwedd 2023, teithiodd tîm o Brifysgol Bangor (Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas) a Chyngor Gwynedd (Uned Iaith a Chraffu) i ymchwilio i sefyllfa ieithyddol y Fasgeg ac er mwyn ystyried dilyniant ieithyddol yno.

Bwriad y daith oedd dysgu am gynlluniau amrywiol yn ymwneud â dilyniant ieithyddol, cydnabod a thrafod heriau posib wrth sicrhau dilyniant ieithyddol rhwng sectorau amrywiol. Tra’r oeddem ni yno, mi wnaethon ni ymweld â sawl sector allweddol:

Sector Addysg

Yn wahanol i Gymru, mae Gwlad y Basg yn aml yn delio gyda thair neu bedair iaith o fewn eu system addysg, sef y Fasgeg, Sbaeneg, Saesneg a’r Ffrangeg hefyd yn ardal Gogledd Gwlad y Basg. Tra ar ein taith i ranbarth Gipuzkoa,sy’n ranbarth lle mae cryn dipyn o siaradwyr Basgeg yn byw, buom yn lwcus i ymweld â dwy ikastola sef ysgolion cyfrwng Basgeg, un yn Orio (un o gadarnlefydd y Fasgeg) ac un yn Donostia, mewn safle dinesig. Roedd defnyddio tair iaith yn yr ysgolion hyn (Y Fasgeg, y Sbaeneg a’r Saesneg) yn ddiddorol iawn gyda phlant yn gadael yr ysgol yn rhugl mewn tair iaith.

Yn ystod ein hymweliad aethom i ymweld â choleg addysg bellach yn Odeitza, a Phrifysgol Gwlad y Basg yn Donostia. Cawsom wahoddiad i gynnig darlith yng Nghyfres Darlith Donostia ar bwnc ‘Defnydd Iaith a Dilyniant Iaith: Rhai esiamplau o Gymru’. Cafwyd cyfle da i gynnal sgwrs gydag academyddion ac aelodau’r cyhoedd o fewn y sesiwn hwn. Roedd yn wych gweld y defnydd o Fasgeg ar waith yn y sectorau addysg hyn a rhannu profiadau a heriau. Roedd yn ddiddorol clywed am ddiffyg argaeledd rhai platfformau digidol addysgiadol mewn Basgeg, a’r ffurf amrywiol yr oedden nhw’n mynd ati i ymateb i’r heriau hyn.

Yn ystod ein hymweliadau gwelwyd tystiolaeth o lwybrau clir rhwng y sectorau addysg gyda darpariaeth oed meithrin, cynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch ar gael drwy gyfrwng y Fasgeg.  O ganlyniad, roedd llwybrau dilyniant ieithyddol clir wrth i unigolion symud i’r byd gwaith. Yr enghraifft amlycaf o hyn oedd ym maes Meddygaeth lle roedd partneriaeth mewn ysbyty ym Milbao i gynnig 140 lle yn flynyddol i hyfforddi yn y maes hwn drwy gyfrwng y Fasgeg.  Er yn wahanol i ni yng Nghymru, mae’n bosib y bydd yr Ysgol Feddygaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at ateb y galw yng Nghymru wrth gynnig peth hyfforddiant drwy’r Gymraeg. Yn ogystal, roedd maes hyfforddi therapyddion iaith a ffisiotherapyddion hefyd ar gael yn y Fasgeg.

Gweithleoedd

Tra bod tebygrwydd rhwng Cymru a Gwlad y Basg, diddorol yw nodi y gall gwahaniaethau fodoli hefyd, wrth i bob iaith leiafrifol fodoli mewn ecosystem unigryw. Gwelwyd hyn o fewn cyd-destun economaidd yng Ngwlad y Basg. Er mwyn ceisio dysgu mwy am sefyllfa’r Fasgeg mewn gweithleoedd, buom yn ymweld â Chyngor Lleol Donostia a Chyngor Rhanbarthol Gipuzkoa. Yn sgil yr ymweliadau, daeth i’r amlwg bod gan y cynghorau lawer mwy o gyllid, adnoddau, a staff i wario’n benodol ar yr iaith Fasgeg o gymharu â’r sefyllfa yng Nghymru. Yn fwy cyffredinol, un nodwedd a oedd yn drawiadol oedd bod y rhan hon o Wlad y Basg yn ymddangos yn fwy cyfoethog na chadarnleoedd y Gymraeg yn y gorllewin. Nid yn unig y mae hyn yn golygu y gall gwariant ar yr iaith fod yn uwch, ond hefyd, gan fod yr economi yn gryfach, roedd cyfleoedd pellach i bobl ifanc aros a datblygu gyrfaoedd llewyrchus yng Ngwlad y Basg. Wrth ystyried teithiau iaith unigolion, gall oedolion ifanc Gwlad y Basg gynllunio i aros yn lleol, gan gynnal eu teithiau iaith.

Y Gymuned

Er y cryfderau amlwg hyn, gellir dadlau bod defnydd cymdeithasol o’r Fasgeg yn her amlwg mewn sawl maes ac yn elfen bwysig o deithiau iaith siaradwyr. Yn ôl nifer o bobl a holwyd ar ein taith, roedd gofid bod nifer yn troi at y Sbaeneg i gyfathrebu o ddydd i ddydd. Er mwyn trafod defnydd iaith cymdeithasol, ymwelwyd â’r Soziolinguistika Klusterra. Un enghraifft ddiddorol o waith arloesol y clwstwr oedd yr Arolwg Defnydd Iaith sydd yn mesur defnydd iaith Basgeg ar strydoedd Gwlad y Basg. Roedd y clwstwr yn gymdeithasegwyr (fel ni!) a oedd yn ceisio mynd i’r afael â nifer o heriau defnydd iaith sy’n eu wynebu yng Ngwlad y Basg, ac yr hoffwn yn sicr barhau i weithio â hwy yn y dyfodol.

Lleolwyd y clwstwr ym Mharc Diwylliannol Martin Ugalde yn Andoain. Roedd y syniad o barc diwylliannol hefyd yn drawiadol gan bod modd ymweld â sawl sefydliad a oedd yn gweithio dros y Fasgeg tra yno (e.e. papur Basgeg y Berria a chwmni Elhuyar sy’n arbenigo ym maes technolegau iaith).

Casgliadau

Yn dilyn ein hymweliad, roedd yna deimlad bod Gwlad y Basg ar y blaen i ni yng Nghymru mewn sawl ffordd. Yn wir, gellir gweld dylanwad polisïau iaith Gwlad y Basg ar Gymru mewn llawer o enghreifftiau. Er hynny, ymddengys bod defnydd iaith cymdeithasol yn ofid yng Ngwlad y Basg, fel yma yng Nghrymu.

Awgryma hyn bod gwaith pellach i’w wneud o fewn y ddau gyd-destun ieithyddol. Mae angen i ni fel cymunedau ieithyddol tebyg gydweithio ymhellach i geisio deall y Mudes a mynd i’r afael â rhwystrau i theithiau iaith unigolion.

Enghraifft dda o gychwyn y cydweithio yw rhannu cysylltiadau Cyngor Dinas Donostia a Chyngor Rhanbarthol Gipuzkoa gydag Arweinydd Cyngor Gwynedd a Rheolwr Cynllun Arfor. Ein bwriad yw trefnu ymweliad yno yn fuan ar gyfer cynrychiolwyr o siroedd Arfor er mwyn dysgu am arferion da yn y misoedd nesaf dyma felly’r cysylltiad yn parhau. Tan y tro nesaf, Gwlad y Basg! Hurrengorarte!