Mae Dave Edwards, cyn-chwaraewr canol cae Cymru, wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Y Bala.

Daw hyn ar ôl i Edwards, oedd wedi ennill 43 o gapiau dros ei wlad, gael ei ryddhau gan Amwythig.

Chwaraeodd e mewn 500 o gemau i Luton, Wolves, Reading ac Amwythig, ac mae e wedi chwarae yn y bum adran uchaf yn y Gynghrair Bêl-droed a’r Uwch Gynghrair.

Mae e wedi sgorio 70 o goliau i’w glybiau, a thair i’w wlad.

Daeth ei gap olaf dros Gymru yn 2017, ac roedd e’n aelod o’r garfan aeth i’r Ewros a chyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2016.

Mae’n ymuno â sawl wyneb cyfarwydd yn Y Bala, ar ôl chwarae ochr yn ochr â Chris Venables a Steven Leslie yn nhîm ieuenctid Amwythig.

Bydd e’n gwisgo crys rhif 19.

‘Croeso i Faes Tegid’

Mae’r rheolwr Colin Caton wedi croesawu Dave Edwards i’r clwb, gan ddweud ei fod e’n gaffaeliad “anhygoel”.

“Siaradais i â Dave sawl gwaith tra bod Charlie, fy mab, yn hyfforddi gydag Amwythig,” meddai.

“Cawson ni sawl sgwrs dda ond do’n i byth yn meddwl y byddai ganddo fo ddiddordeb yn y Cymru Premier.

“Mae ei gael o yma’n hollol wych, mae o wedi chwarae efo Chris Venables o’r blaen ac mae o’n nabod sawl un o’r hogiau, fel Antony Kay mae o wedi chwarae yn eu herbyn nhw yn y cynghreiriau.

“Roedd o’n bleser delio efo fo ac mae o am ychwanegu cymaint i ni fel chwaraewr, fel person a bydd ei wybodaeth a’i brofiad o amgylch yr ystafell newid heb ei ail.”