Mae Gareth Bale yn dweud ei fod e’n teimlo’n ffit ac yn barod i danio o flaen y gôl i Gymru yn yr Ewros, wrth iddo fe geisio ailadrodd y gamp o sgorio ym mhob gêm grŵp fel y gwnaeth e yn Ffrainc yn 2016.

Bryd hynny, cyrhaeddodd Cymru rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth Ewropeaidd cyn colli yn erbyn Portiwgal, oedd wedi mynd yn eu blaenau i ennill y twrnament.

Daw sylwadau prif fygythiad Cymru o flaen y gôl wrth i’w dîm baratoi i herio’r Swistir yn eu gêm gyntaf yn Baku heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 12, 2yp).

Sgoriodd Bale chwe gôl yn ei saith gêm olaf ar fenthyg i Spurs y tymor diwethaf, ac mae’n dweud ei fod e’n barod i barhau i sgorio.

“Dw i’n teimlo’n dda, yn ffit ac yn siarp, ac yn barod i fynd,” meddai ar ôl sgorio gôl bob 83.9 munud ar gyfartaledd yn Uwch Gynghrair Lloegr, y gyfradd orau yn y gynghrair, a gorffen gyda chyfanswm o 16 o goliau.

“Wnes i sgorio sawl gôl yn ystod tri neu bedwar mis ola’r tymor ac roedd fy mherfformiadau’n gwella gyda phob gêm.

“Gobeithio fy mod i wedi amseru fy mherfformiadau’n berffaith a gobeithio y bydda i’n parhau â hynny yn y twrnament yma.

“Byddai’n braf [sgorio ym mhob gêm], wrth gwrs, mae goliau’n ennill gemau i chi.

“Ond does dim ots pwy sy’n sgorio nac yn creu’r goliau.

“Y nod i’r tîm cyfan – y genedl gyfan – yw ein bod ni’n ennill gemau.

“Cyn belled â’n bod ni’n cael buddugoliaethau, ac yn osgoi colli a chael allan o’r grŵp yma, byddwn ni’n hapus iawn.”

Cyfnod hesb ar ben?

Dydy Gareth Bale ddim wedi sgorio yng nghrys Cymru ers 11 o gemau.

Daeth ei gôl ddiwethaf yn erbyn Croatia mewn gêm ragbrofol ar gyfer y gystadleuaeth hon yn 2019.

Serch hynny, fe yw prif sgoriwr ei wlad, gyda 33 o goliau mewn 92 o gemau.

“Ond dw i wedi creu chwe neu saith yn ystod y cyfnod hwnnw, felly dw i’n dal i gyfrannu yn nhermau goliau,” meddai.

“Dw i ddim yn poeni.

“Dw i’n gwybod lle mae cefn y rhwyd ac os daw’r cyfle, dw i’n gallu ei gymryd e.”

Mae Cymru hefyd wedi cael hwb ar ôl cael cadarnhad fod Aaron Ramsey yn holliach ar ôl hepgor sesiynau ymarfer ddiwedd yr wythnos.

Ond y Swistir sy’n dechrau’r gêm yn ffefrynnau ar ôl ennill pob un o’u pum gêm eleni.

“Mae gyda fi deimlad da,” meddai’r capten Granit Xhaka.

“Rydyn ni wedi cael cyfnod hir o baratoi ac yn edrych ymlaen at ddechrau.

“Byddwn ni’n ei gymryd gam wrth gam ond mae ein disgwyliadau ni’n uchel iawn.”

Aaron Ramsey yn dweud ei fod yn holliach ar gyfer gêm agoriadol Cymru

Ac yn trafod y rôl ‘rhif naw ffug’… a gwallt Phil Foden