Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dweud y gallen nhw gymryd camau pellach yn erbyn cricedwyr sydd wedi postio negeseuon sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gorffennol.

Daw hyn yn dilyn y ffrae yn ymwneud ag Ollie Robinson, bowliwr cyflym Lloegr, pan ddaeth i’r amlwg ar ei ddiwrnod cyntaf yn y tîm ei fod e wedi cyhoeddi negeseuon hiliol, rhywiaethol a sarhaus pan oedd e yn ei arddegau.

Cafodd Robinson, sy’n chwarae i Sussex ac a gafodd ei ddiswyddo gan Swydd Efrog yn y gorffennol am ddiffyg disgyblaeth, ei wahardd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Yn ddiweddarach, fe ddaeth i’r amlwg fod chwaraewr anhysbys arall wedi postio negeseuon sarhaus pan oedd e’n blentyn, tra bod nifer o chwaraewyr eraill, gan gynnwys Jimmy Anderson, Jos Buttler ac Eoin Morgan hefyd wedi postio negeseuon y gellid eu hystyried yn sarhaus.

O ganlyniad, fe fu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn ceisio penderfynu a ddylid mynd i’r afael â’r achosion hynny yn ogystal ag unrhyw achosion a allai godi yn y dyfodol.

Yn ôl yr ECB, roedd yr ymchwiliad yn mynd i’r afael ag “achosion hanesyddol” a’r angen i “atgoffa unigolion o’u cyfrifoldebau personol wrth symud ymlaen, a’u helpu i ddysgu gwersi ar hyd y ffordd”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “glir na fyddai’r broses hon yn atal camau disgyblu pellach yn y dyfodol pe bai angen”, ond eu bod nhw’n gobeithio y “gall y gêm godi o’r cyfnod anodd hwn yn gryfach ac yn benderfynol o fod yn fwy cynhwysol a chroesawgar i bawb”.

Fe fydd gweinyddwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) yn cymryd rhan yn yr adolygiad.

Amrywiaeth

Yn ôl Ian Whatmore, cadeirydd yr ECB, mae’r corff llywodraethu wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth a bod croeso i bawb yn y byd criced.

Mae’n dweud bod rhaid helpu chwaraewyr “i arddangos delwedd gynhwysol, eu haddysgu ynghylch yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw a rhoi lle iddyn nhw fynegi eu hunain i’r cyhoedd”.

“Rhaid i ni hefyd gynnal ymchwiliad i’w gweithredoedd a’u cosbi pan fyddan nhw’n syrthio i lawr,” meddai wedyn.

Ymchwiliad sirol

Yn y cyfamser, mae adroddiadau bod Swydd Gaerhirfryn yn cynnal ymchwiliad i negeseuon gan bump o’u chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl y Lancashire Telegraph, mae’r sir yn ymchwilio i negeseuon ar gyfrifon Alex Davies, Liam Hurt, Luke Wells, Josh Bohannon a Richard Gleeson.

Mae Bohannon a Davies wedi’u cynnwys yn y garfan i herio Swydd Gaerwrangon mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yfory (dydd Sul, Mehefin 13), ond mae’r sir yn dweud bod Richard Gleeson wedi anafu ei gefn.

Dydy Hurt na Wells ddim wedi’u cynnwys.

Mae dyfalu y gallai’r 17 sir arall, sy’n cynnwys Morgannwg, gynnal ymchwiliad tebyg o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu chwaraewyr o ganlyniad i’r helynt.