Mae gen i berthynas od â chwaraeon. Dim ond dwy gamp dw i erioed wedi’u dilyn yn fanwl a’u mwynhau o ddifri: pêl-droed a rygbi. O ran yr ail, mae’n eithaf cyfyngedig i hynt a helynt y tîm rhyngwladol efo pinsiad o’r Scarlets. Ond dwi wastad wedi cael mwy o ddiddordeb mewn pêl-droed yn gyffredinol. Man U fuo fy nhîm i erioed, a bydda i bob amser yn cadw llygad o bell ar beth sy’n digwydd yn Napoli. Mae hyn yn cyd-fynd â chasineb wenfflam ac unplyg at Lerpwl.