Mae Cymru a’r Alban mewn sefyllfa debyg ond, fel yn achos annibyniaeth, mae’r Alban ar y blaen. Er mwyn hybu’r Undeb yn y gogledd pell, mae’r wladwriaeth yn defnyddio darpar Dywysog Cymru (Wil Walia) a’i wraig …
“Beth yn y byd ddigwyddodd i ‘Awesome Foursome’ Boris? Beth ddigwyddodd i’r ‘Teulu o Genhedloedd’? Ble mae’r rhethreg am ‘bartneriaid cyfartal’? Wedi mynd, wedi mynd a’u disodli gan gynllun deublyg o (a) defnyddio roial anetholedig mewn ffordd gwbl anghyfansoddiadol… a (b) esgus nad ydyn ni’n bod.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)
Mae John Dixon yn teimlo bod yr un peth ar droed yng Nghymru (ond heb hyd yn oed haeddu sylw roial) …
“Mae’r Prif Weinidog [un Prydain] wedi cyhoeddi y bydd ‘yr undeb’ wrth galon popeth y mae’r llywodraeth yn ei wneud… yn ymarferol y cyfan y mae’n ei olygu yw edrych ar bob polisi i benderfynu a yw’n cynnig cyfle arall i ddadwneud y setliad datganoli a/neu i blastro fflagiau’r undeb o gwmpas y lle. Fydd teimladau’r Albanwyr a’r Cymry ddim yn cael eu cynnwys na’u tawelu, dim ond eu sathru a’u gwrthod.” (borthlas.blogspot.com)
A dyma ddisgrifiad cyfarwydd …
“Mae prisiau’n codi, yn aml ar raddfa wirion… all pobol leol ddim fforddio prynu ac mae’n rhaid iddyn nhw symud bant, gan golli’r hawl i fyw yn ardal eu geni neu lle maen nhw’n gweithio. Am gyfnod, yr ateb oedd ymestyn tir adeiladu ond dyw hynny ddim yn gyson bellach gyda’r angen i warchod tir amaethyddol… mae’r cynnydd yma mewn tai gwyliau yn raddol wasgu poblogaethau lleol mas, yn bwyta calon cymunedau. Mae siopau, gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, gwasanaethau ac ysgolion yn diflannu. Mae’r mannau hyn wedyn yn wag y rhan fwya’ o’r flwyddyn, wedi’u rhoi’n llwyr i dwristiaeth gefnog a gwyliau haf.” (Jean Lucas ar nation.cymru)
Na, nid Cymru ond Llydaw ac, wrth i Dafydd Meurig o Gyngor Gwynedd gynnig un ateb hawdd ar nation.cymru trwy ddweud bod pob annedd yn dŷ annedd ar gyfer trethi, mae Ifan Morgan Jones yn awgrymu datrysiad mwy radical …
“Un ateb posib fyddai mynnu rhywfaint o hunanreolaeth tros faterion fel yr iaith, tai ac economi ar gyfer y rhan yma o Gymru [ardal Arfor]. Mae yna ddadleuon da, beth bynnag, pam y dylai Cymru fabwysiadu model efo mwy o ddatganoli rhanbarthol. Does dim rheswm da pam y dylen ni ddynwared model y Deyrnas Unedig o ganolbwyntio’r holl rym gwleidyddol yn un rhan o’r wlad. Fel y dywedodd yr economegydd, yr Athro Calvin Jones: ‘Mae strwythur economaidd de Cymru ôl-ddiwydiannol yn hollol wahanol i ogledd-ddwyrain Cymru sy’n ddiwydiannol o hyd gyda marchnadoedd llafur gwahanol (a chwbl ar wahân), anghenion sgiliau gwahanol a chyfeiriad daearyddol gwahanol. Mae pawb sy’n gweithio’n aml yng ngogledd-orllewin Cymru’n gwybod ei bod yn wlad arall yn economaidd (ac, i raddau yn gymdeithasol-ddiwylliannol).’.” (nation.cymru)