Efallai y clywoch chi am yr ymgyrch ‘No Mow May’ gan Plantlife a’r galw i chi adael eich lawnt i dyfu er budd natur. Ond, yn ôl un ecolegydd, mae gwell gan rai creaduriaid – fel y deryn du – lawntiau byr.

Dyma un o bwyntiau’r Dr Duncan Westbury, Prif Ddarlithydd mewn Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerwrangon, yn ei ddarlith yn ystod Gŵyl y Gelli Ddigidol yr wythnos ddiwethaf.