Sut mae achub yr undeb? Dyma gwestiwn y mae Llywodraeth San Steffan yn dal i gael trafferth fawr canfod ateb iddo.

Ddechrau’r flwyddyn roedd sïon yn dew bod yna gynllun i sefydlu ‘Undeb i Achub yr Undeb’, ac yna roedd sôn am ‘Gyfarwyddiaeth i Achub yr Undeb’.

Yna roedd yna drafodaeth ddwl am faneri, a’r angen i gyhwfan Jac yr Undeb ledled Prydain er mwyn cadw’r undeb yn fyw.

Bellach mae rhagor o syniadau rhyfedd wedi dod i’r fei.