“Sefyllfa warthus” datblygiad tai Cae Rhosydd
Mae sefyllfa datblygiad tai yn Nyffryn Ogwen wedi cythruddo trigolion Rachub a’r cyffiniau.
Yn ôl Gareth Llwyd, mae Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Dyffryn Ogwen yn anfodlon iawn ac yn bryderus am y modd y mae Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd a’r gymdeithas dai, Adra, wedi newid natur a bwriad y cais cynllunio ar gyfer Cae Rhosydd, Rachub.
Gallwch ddarllen rhagor am y newidiadau a’r pryderon yn lleol ar Ogwen360.
Fydd pethau byth ’run fath – ond dydi hynny ddim yn ddrwg i gyd
Pobol yn laru, technoleg, a heriau rhoi tawelwch meddwl i gleifion – y meddyg teulu Dr Catrin Elis Williams sy’n sôn am y newid sydd wedi gorfod digwydd yn ei gwaith bob dydd yn sgil covid.
Mae’n siarad ar ddiwrnod mawr – y diwrnod y cyflawnwyd y clinig brechu ola’ ym Meddygfa Bodnant.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o glipiau fideo ar BangorFelin360 gan wahanol bobol yn sôn am sut mae pethau wedi bod arnyn nhw yn y gwaith mewn cyfnod digynsail.
Uchafbwyntiau tymor “gwahanol iawn” i Glwb Pêl-droed Aberystwyth
Gan ei fod ar bigau’r drain yn edrych ymlaen at yr Ewros, Gruffydd Huw sy’n helpu cefnogwyr Aberystwyth i fodloni eu “ffics” pêl-droed, trwy edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r tymor.
Ewch i BroAber360 i weld pa chwaraewyr sy’n dod i’r brig, beth oedd ei hoff gêm a beth oedd “rhyddhad mwyaf y tymor”. Ydych chi’n cytuno â’i ddewisiadau?
Llun yr wythnos
Diolch i Lona Mason am fod y diweddaraf i rannu ei hoff wâc leol ar BroAber360, ac am rannu’r llun arbennig yma o’r daith!
Am dro o gwmpas Ysgubor-y-coed
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Pobi yn agor ei ddrysau yn yr hen fanc, gan Sioned Young ar DyffrynNantlle360
- Datblygiad Tai Cae Rhosydd, gan Gareth Llwyd ar Ogwen360
- Delyth Evans o Silian yn ail fel Prif Ddramodydd, gan Dylan Lewis ar Clonc360