Mae Sinn Fein wedi cyhuddo Edwin Poots, arweinydd y DUP, o ymddwyn yn ffuantus gan fynnu bod rhaid iddo fe roi sicrwydd ynghylch deddfwriaeth i warchod yr iaith Wyddeleg cyn y byddan nhw’n fodlon rhoi eu henwebiad ar gyfer swydd y prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog.
Yn ôl llefarydd y blaid, roedd Sinn Fein “wedi siarad a gwrando hyd at ddoe” a’u bod nhw’n teimlo nad yw e’n gwbl “onest” wrth ddweud yn gyhoeddus y bydd e’n ymrwymo i’r cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd.
“Rydyn ni’n credu eu bod nhw’n ymddwyn yn ffuantus,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn credu y byddan nhw’n gweithredu o ran deddf iaith Wyddeleg.
“Ein safbwynt yw fod rhaid i enwebiad ar gyfer y prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog ddod ochr yn ochr â deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg.”
Fydd dim modd ffurfio cyfundrefn newydd yn Stormont hyd nes bod y sefyllfa hon wedi cael ei datrys.