Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am stormydd, cenllysg, gwyntoedd cryfion a glaw trwm yng Nghymru ganol yr wythnos.
Mae’r rhybudd yn ei le mewn 16 o siroedd, ac mae disgwyl oedi i deithwyr a llifogydd mewn rhai ardaloedd.
Bydd y rhybudd yn ei le o 6 o’r gloch nos Wener (Mehefin 16) tan 6 o’r gloch fore Gwener (Mehefin 18).
Gallai hyd at 30mm (1.2 modfedd) o law gwympo mewn awr mewn rhai ardaloedd.
Mae’r rhybudd yn ei le yn y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Fynwy
- Sir y Fflint
- Sir Gaerfyrddin
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Wrecsam