Mae protest ‘Kill the Bill’ yn erbyn yr heddlu wedi dechrau yng Nghernyw wrth i arweinwyr gwledydd y G7 gyfarfod yno.
Daeth torf o bobol ynghyd mewn maes parcio yn Aberfala (Falmouth) i wrando ar fand pync yn perfformio.
Mae’r dorf wedi bod yn gweiddi ‘Kill the bill’ a sloganau eraill megis ‘Hawliau pwy? Ein hawliau ni’, ‘Dywedwch ei henw, Sarah Everard’ a ‘Dywedwch ei enw, George Floyd’.
Aeth y protestwyr oddi yno tuag at ganolfan y wasg y G7 lle parhaodd y brotest.
Dywedodd un siaradwr anhysbys fod y brotest yn digwydd “yn erbyn y bil plismona, troseddau a dedfrydu”.
“Mae hwn yn fil hiliol, gorthrymus a draconaidd a fydd yn symud achos ein democratiaeth o gynnydd am yn ôl”.
Mae degau o blismyn yn monitro’r sefyllfa yno.