Mae Boris Johnson yn mynnu bod y Deyrnas Unedig yn “un wlad fawr na ellir ei rhannu” wrth ymateb i sylwadau Emmanuel Macron yn ystod uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw.
Mae prif weinidog Prydain wedi dweud droeon wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd nad oes modd rhannu’r Deyrnas Unedig ac mae Dominic Raab wedi eu cyhuddo o fod yn “sarhaus” drwy awgrymu fod Gogledd Iwerddon yn wlad ar wahân.
Daw hynny ar ôl awgrym Emmanuel Macron yn ystod ei drafodaethau â Boris Johnson yn yr uwchgynhadledd.
“Yr hyn dw i’n ei ddweud yw y byddwn ni’n gwneud beth bynnag mae’n ei gymryd i warchod gonestrwydd tiriogaethol y Deyrnas Unedig, ond yr hyn ddigwyddodd yn yr uwchgynhadledd oedd fod yna gryn dipyn o waith ar bynciau nad oes ganddyn nhw ddim byd i wneud â Brexit,” meddai Boris Johnson mewn cynhadledd i’r wasg ar ddiwedd yr uwchgynhadledd.
Dywedodd Dominic Raab fod yr awgrym mai dwy wlad yw Prydain a Gogledd Iwerddon “nid yn unig yn sarhaus, ond mae’n cael effeithiau gwirioneddol ar gymunedau yng Ngogledd Iwerddon ac yn achosi cryn bryder”.
“Allwch chi ddychmygu pe baen ni’n siarad am Gatalwnia, rhan Ffrengig Gwlad Belg, un o’r tiriogaethau yn yr Almaen, gogledd yr Eidal, Corsica yn Ffrainc fel gwledydd gwahanol?
“Mae angen ychydig o barch fan hyn,” meddai wedyn fod agwedd penaethiaid yr Undeb Ewropeaidd yn “adrodd cyfrolau”.
‘Rhan fach’ o’r uwchgynhadledd
Er bod y ffrae yn bygwth bod yn gysgod tros y digwyddiad yng Nghernyw, “rhan fach” o’r uwchgynhadledd oedd y ffrae, yn ôl Boris Johnson.
Mae’n dweud bod yna “gryn dipyn o gytgord” wrth drafod y rhan fwyaf o bynciau.
Yn ystod yr uwchgynhadledd, fe wnaeth yr arweinwyr yr addewidion canlynol:
– Biliwn dos o frechlynnau Covid-19
– Torri allyriadau a cheisio cyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd i 1.5 gradd
– Cyrraedd targedau allyriadau sero net erbyn 2050 fan bellaf
– Cadw neu warchod o leiaf 30% o diroedd a moroedd erbyn 2030