Mae Boris Johnson yn wynebu ymateb ffyrnig gan aelodau seneddol Torïaidd wrth iddo baratoi i ohirio llacio’r cyfyngiadau symud yn Lloegr.
Mae disgwyl i brif weinidog Prydain gyhoeddi y bydd y terfyn ar reolau pellter cymdeithasol – a oedd wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin 21 – yn cael ei ohirio am bedair wythnos hyd at Orffennaf 19, gyda’r BBC yn adrodd bod y penderfyniad wedi’i gymeradwyo gan weinidogion.
Daw hyn yn dilyn rhybuddion gan wyddonwyr bod ymlediad cyflym yr amrywiolyn Delta yn peryglu trydedd don “sylweddol”.
Mae disgwyl i Boris Johnson apelio i’r cyhoedd i ddangos amynedd, gydag un ymgyrch olaf i sicrhau, pan fydd cyfyngiadau’n dod i ben o’r diwedd, ei fod yn “ddi-droi’n-ôl”.
Fodd bynnag, mae’n gam enfawr yn ôl i lawer o fusnesau – yn enwedig yn y sector lletygarwch– a oedd wedi gobeithio ailagor yn llawn drwy gydol yr haf i adennill rhai o golledion y flwyddyn ddiwethaf.
Mae yna rwystredigaeth ar feinciau’r Ceidwadwyr, sy’n dweud nad oes rheswm dros beidio â rhoi terfyn ar y cyfyngiadau gan fod y rhai sydd yn fwyaf tebygol o farw neu gael eu heffeithio gan salwch difrifol bellach wedi cael eu brechu’n llawn.