Mae mwy o ddynion hoyw a deurywiol bellach yn cael rhoi gwaed, platennau a phlasma yn dilyn newid “hanesyddol” yn y gyfraith heddiw (dydd Llun, Mehefin 14).

Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd, fydd dynion sy’n rhoi gwaed ddim yn cael eu holi a ydyn nhw wedi cael rhyw â dyn arall, ond bydd pawb yn parhau i gael eu holi a ydyn nhw wedi cael rhyw yn ddiweddar.

Bydd hawl gan unrhyw un sydd â’r un partner rhywiol ers tri mis yn cael rhoi gwaed, sy’n golygu y bydd mwy o ddynion hoyw a deurywiol yn cael rhoi gwaed, platennau a phlasma yn ddiogel.

“Mae diogelwch cleifion wrth galon pobol rydyn ni’n ei wneud,” meddai Ella Poppitt, prif nyrs rhoi gwaed gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd.

“Pwrpas y newid hwn yw addasu sut rydyn ni’n asesu’r risg o fod yn agored i heintiau rhywiol fel ei fod yn cael ei deilwra’n well i’r unigolyn.

“Rydyn ni’n sgrinio pob rhodd am dystiolaeth o heintiau sylweddol, sy’n mynd law yn llaw â dewis rhoddwyr i gynnal diogelwch gwaed sy’n cael ei anfon i ysbytai.

“Bydd yr holl roddwyr bellach yn cael eu holi am ymddygiadau rhywiol a allai fod wedi cynyddu eu risg o haint, yn enwedig heintiau sydd wedi’u caffael yn ddiweddar.

“Mae hyn yn golygu na fydd rhai rhoddwyr yn gymwys ar y diwrnod hwnnw ond y byddan nhw yn gymwys yn y dyfodol efallai.”

Croeso gofalus

Mae nifer o elusennau wedi croesawu’r newid yn y gyfraith.

Yn eu plith mae Stonewall, Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Aids ac Ymddiriedolaeth Terence Higgins.

Yn ôl Stonewall, mae’n “gam pwysig tuag at bolisi dewis rhoddwyr sy’n gwbl seiliedig ar asesiad risg wedi’i deilwra’n unigol”.

Serch hynny, mae Ymddiriedolaeth Terence Higgins yn dweud bod yna “gyfyngiadau sy’n gwahaniaethu” yn erbyn pobol groenddu o hyd, sef fod cyfnod o oedi o dri mis ar gyfer unrhyw un sydd â phartner sy’n hanu o unrhyw le yn y byd lle mae HIV ac Aids yn gyffredin.

Mae hynny’n gwahaniaethu yn erbyn rhannau helaeth o gyfandir Affrica, yn ôl yr elusen.