Bydd pump o bobol ifanc yn eu harddegau yn mynd gerbron llys wedi’u cyhuddo o ladrata a llofruddio dyn yng Nghasnewydd.
Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r dyn 26 oed fu farw.
Cafwyd hyd i Ryan O’Connor yn farw toc ar ôl 9 o’r gloch nos Iau (Mehefin 10).
Mae dau ddyn 19 oed o Gaerdydd, dyn 18 oed o Gaerdydd, bachgen 17 oed o Gaerffili a bachgen 17 oed o Gaerdydd wedi cael eu cyhuddo o un achos o lofruddio ac un o ladrata.
Mae’r pump wedi cael eu cadw yn y ddalfa, a byddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun (Mehefin 14).
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol yn Heol Balfe, ac fe gawson nhw hyd i Ryan O’Connor yn anymwybodol.
Cadarnhaodd parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ddiweddarach ei fod wedi marw a dywedodd yr heddlu fod ei deulu’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Ymchwiliad
“Mae ein swyddogion a’n staff wedi gweithio’n ddiflino ers i’r ymchwiliad hwn ddechrau ddydd Iau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Ar ran Heddlu Gwent, hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr ymroddiad a’r proffesiynoldeb ddangoson nhw hyd yn hyn.
“Byddwn yn parhau i fod yno dros y dyddiau nesaf a bydd ein patrolau heddlu lleol yn parhau. Os oes gennych unrhyw bryderon, cymerwch yr amser i stopio a siarad â ni.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a ddangoswyd i ni gan gymunedau Casnewydd a’n partneriaid yn fawr, a bydd ein hymholiadau yn parhau yn yr ymchwiliad hwn wrth i ni geisio dwyn i gyfri y rhai sy’n gyfrifol.”
Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i ffonio 101.