Mae Cernyw wedi cyhoeddi bwriad i wneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2025.

Daw’r cyhoeddiad swyddogol ar ddiwedd Uwchgynhadledd G7 arweinwyr y byd, a gafodd ei gynnal ar yr arfordir.

Yn ystod eu harhosiad, ymwelodd yr arweinwyr â mannau diwylliannol lleol fel yr Eden Project a Theatr Minack.

Mae’r cais wedi’i gefnogi gan unigolion creadigol a sefydliadau diwylliannol ledled Cernyw, – yn eu plith mae’r actor ac awdur Dawn French sy’n enedigol o Gernyw, cyfarwyddwr cenedlaethol Tate Maria Balshaw, a Phrifysgol Falmouth.

Cafodd y gystadleuaeth i ddod o hyd i Ddinas Diwylliant 2025 ei lansio gan Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, bythefnos yn ôl.

Bydd enillydd y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal bob pedair blynedd, yn olynu Coventry.

Newid y drefn

Am y tro cyntaf, bydd grwpiau o drefi yn gallu ymuno â’i gilydd i wneud cais, sy’n golygu bod Cernyw gyfan yn gymwys.

Bu’n rhaid i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ymddiheuro ddoe (dydd Sul, Mehefin 13) wedi i Oliver Dowden honni ar gam fod Theatr Minack ger Land’s End wedi elwa o gyllid Covid-19 y Llywodraeth.

Mae’r theatr wedi’i lleoli ar ben clogwyn sy’n edrych allan i’r môr, ac fe wnaeth arweinwyr gwleidyddol gan gynnwys gwraig y Prif Weinidog Boris Johnson, Carrie a gwraig Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jill ymweld â hi yn ystod yr uwchgynhadledd.

Cyn prif ddigwyddiad yr uwchgynhadledd, cynhaliodd Brenhines Loegr dderbyniad awyr agored i arweinwyr ym Maes Eden ac ymunodd y Tywysog Charles, Duges Cernyw a Dug a Duges Caergrawnt â hi.

‘Etifeddiaeth ddiwylliannol barhaol’

“Rwy’n llwyr gefnogi cais Cernyw i fod yn Ddinas Diwylliant ac wrth wneud hynny, arddangos y môr diwylliannol a chreadigol cyfoethog ac amrywiol sy’n rhedeg drwy ein holl gymunedau,” meddai Linda Taylor, arweinydd Cyngor Cernyw.

“Mae ein hunaniaeth unigryw fel lle yn deillio o’n diwylliant.

“O’n llenorion a’n cerddorion talentog, ein hartistiaid eithriadol, gwneuthurwyr ffilmiau a theatrau, bydd y cais hwn yn ein galluogi i dynnu sylw at bob un ohonynt a chreu etifeddiaeth ddiwylliannol barhaol.”