Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer academi iechyd a gofal newydd ar gyfer y sir.
Mae’r Academi’n rhan o ymateb ledled Cymru i gynyddu mynediad at addysg a hyfforddiant ar draws y sector iechyd a gofal.
Y bwriad wrth ei ddatblygu yw mai hwn fydd darparwr craidd y sir erbyn 2027.
Bydd ei gampws cyntaf yn Neuadd Basil Webb ar safle Ysbyty Bronllys yn agor yn yr hydref.
Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb a digidol drwy bedair ysgol – Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol a Chlinigol.
Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cyfleusterau tebyg ar draws y sir dros y ddwy flynedd nesaf.
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys fydd y grŵp cyntaf o ddysgwyr.
Daw hynny trwy gynllun Kickstart sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.
Mae’r rhain yn cydweithio i wella iechyd a llesiant trigolion y sir.
‘Datblygu a chynyddu sgiliau’
“Ein huchelgais ar gyfer yr academi yw iddo ddod yn ddarparwr enghreifftiol ym meysydd addysg, hyfforddiant a datblygiad iechyd a gofal gwledig,” meddai Julie Rowles, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
“Rydym am i’r sector iechyd a gofal ym Mhowys fod yn sector o ddewis i’r rhai sy’n awyddus i uwchsgilio a/neu ddechrau ar yrfa newydd.
“Rydym am i bobl ddod i Bowys i ddatblygu a chynyddu eu sgiliau a mwynhau gyrfa yma.
“Y gwaith hwn, sy’n digwydd ar gampws Bronllys ar hyn o bryd, yw’r cyntaf o nifer o fannau ffisegol blaenllaw a fydd yn dod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni ddatblygu Academi Iechyd a Gofal Powys.”
‘Gofal ffyniannus’
“Wrth i ni ym Mhowys wella o COVID 19, nid yw lles ein trigolion erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol,” meddai’r Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Rhaglen Lesiant Gogledd Powys.
“Mae angen sector iechyd a gofal ffyniannus arnom i sicrhau hyn, yn ogystal â chyfleoedd gyrfa hanfodol.
“Mae’r Academi Iechyd a Gofal yn gyfle gwych i bobol leol ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector.
“Rwy’n arbennig o falch o weld y cyfleoedd a ddarperir i ofalwyr droi eu profiad gwerthfawr yn gyfleoedd gyrfa.”